Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Neuadd Bentref Trefriw


Summary (optional)
Mae Neuadd Bentref Trefriw wedi’i leoli yng nghanol y pentref, gyferbyn â’r Swyddfa Bost ar y B5106. Tu mewn mae toiledau, prif neuadd gyda llwyfan, cegin ac ystafell gyfarfod fechan.
start content

Y Brif Neuadd

  • Y capasiti uchaf yw 175 o bobl - er nad oes digon o fyrddau/cadeiriau i eistedd cymaint â hynny o bobl os oes angen
  • Cadeiriau a byrddau mawr sy’n plygu
  • Llwyfan gyda llenniTaflunydd a Sgrin
  • System oleuadau disgo a system sain (ar gais)
  • Darperir gwres gan reiddiaduron trydan

Cegin (tri gris i fyny o’r brif neuadd)

  • Popty trydanol
  • Oergell
  • Microdon
  • Tegell ac wrn dŵr poeth
  • Amrywiaeth o lestri, cytleri ac offer sylfaenol. Bydd angen i logwyr sy’n dymuno gweini mwy na bwffe sylfaenol, ddod â’u hoffer coginio eu hunain i’w defnyddio.

Ystafell gyfarfod fechan (tri gris i fyny o’r brif neuadd)

  • Bwrdd a phedwar cadair
  • Siart troi
  • Darperir gwres gan wresogydd ffan trydan

Cyfleusterau eraill

  • Dau doiled hygyrch niwtral o ran y rhywiau (mynediad fflat o fynedfa’r neuadd a’r brif neuadd)
  • AED (diffibriliwr) wedi’i leoli ar y wal tu allan i’r neuadd
  • Parcio: mae parcio oddi ar y stryd ar gyfer un cerbyd ger y neuadd, gyda pharcio cyfyngedig-tymhorol ar y stryd gyferbyn. Mae digon o barcio cyhoeddus am ddim, heb gyfyngiadau ar gael ar Ffordd Gower (baeau wedi’u marcio) gyferbyn â Melin Wlân Trefriw, ychydig funudau o gerdded fflat o’r neuadd.

Manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau ac archebu

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content