Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ardal Chwarae Parc Tir Prince


Summary (optional)
Lleoliad ardal chwarae Parc Tir Prince a'r offer a'r cyfleusterau sydd ar gael.
start content

Lleoliad

Ffordd Tywyn
Tywyn
Conwy
LL22 9EN
Mynediad hefyd o Lys Glyndŵr

Cyfleoedd chwarae

Mae gan Tir Prince 2 ardal chwarae wedi'u ffensio sydd wedi cael eu datblygu diolch i gefnogaeth a chyllid gan WREN Recycling Ltd, y diweddar Gynghorydd William Knightly, Cyngor Tref Bae Cinmel a Chyfeillion Parc Tir Prince.

  • Llithren
  • Siglenni crud
  • Siglenni fflat
  • Si-so
  • Unedau sbringiau
  • Cylchfan chwarae gyda rhwyd raffau
  • Paneli chwarae
  • Rhwyd ofod
  • Cysgodfan
  • Uned chwarae
  • Siglen sglefr-fyrddio
  • Uned gemau aml-ddefnydd gyda goliau pêl-droed a rhwydi pêl fasged
  • Mae yna ardaloedd llydan ac agored o wair i chwarae arnynt a chae pêl-droed maint llawn

Hygyrchedd

Mae'r parc a’r ardal chwarae'n wastad gyda llwybrau mynediad da a giatiau. Mae yna siglenni basged mawr ar gyfer plant â symudedd cyfyngedig a chylchfan chwarae gynhwysol yn yr ardal chwarae i blant bach (nid cylchfan chwarae cadair olwyn).

Cyfleusterau

Mae campfa a pharc sglefrio gerllaw. Mae yna siopau, difyrion a chaffis gerllaw ar Ffordd Tywyn. Mae'r toiledau agosaf ar Ffordd y Twyni, Tywyn (5 munud ar droed).

end content