Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghoriad ardal chwarae Tan y Fron: adborth


Summary (optional)
start content

Diolch yn fawr i bawb wnaeth gymryd yr amser i roi barn ar y gwelliannau arfaethedig ar gyfer ardal chwarae Tan y Fron.  Gwnaethom dderbyn adborth gan 71 o breswylwyr.

Mae’r tîm cae chwarae wedi gwerthuso’r holl adborth ac rydym bellach yn paratoi dyluniad yn seiliedig ar ganlyniadau’r adborth.

Oedrannau

Roedd yna ffafriaeth tebyg iawn ar gyfer darpariaeth chwarae ar gyfer pob oed yn amrywio o 18 mis i 7+ oed.  Byddwn yn ceisio cynnwys gwelliannau ar gyfer pob oed, ond gan bod yna siglen fasged fawr a ffrâm ddringo eisoes ar gyfer plant hŷn rydym eisiau canolbwyntio ar ddarparu ar gyfer plant iau.

Offer chwarae

Roedd yna lawer iawn yn ffafrio’r uned thema cwch aml-chwarae felly byddwn yn cynnwys thema morwrol yn y dyluniad.

Ar gwestiynau am offer chwarae penodol, roedd preswylwyr yn dweud wrthym ei bod yn well ganddynt:

  • cylchfan hygyrch i gadair olwyn
  • trawst cydbwyso
  • siglen gwastad a siglen crud
  • powlen droelli
  • reidwyr sbring o ddyluniadau gwahanol

Mae gennym siglen fasged eisoes a ddyluniwyd i fod yn hygyrch a byddwn yn gosod wyneb diogelwch newydd oddi tanodd.  Byddwn yn ychwanegu mwy o ddarpariaeth chwarae cynhwysol gyda chylchfan ar gyfer cadair olwyn.

Ni fyddwn yn ychwanegu at y nifer o siglenni ond byddant yn cael eu disodli a’u hadleoli gydag arwyneb diogelwch newydd.  Gobeithio y bydd yr offer diogelwch newydd yn lleddfu’r nifer o blant sy’n dymuno defnyddio’r siglen.

Rydym yn bwriadu cadw’r bariau codi i fyny, bydd y rhain yn cael eu hail baentio a bydd yr wyneb yn cael ei newid.

Mae yna feinciau yn yr ardal chwarae yn barod ond byddwn yn ychwanegu mwy o seddi yn agos at yr offer chwarae newydd.

Yn unol â’r adborth, rydym yn bwriadu lleoli’r offer newydd ar ochr dde y brif giât yn y fynedfa, gyda’r cylchfan yn agos at y fynedfa.  Bydd y siglenni crud a gwastad yn cael eu lleoli ymhellach i ffwrdd o’r fynedfa.

Ystyriaethau eraill

Bydd yr offer newydd yn cael ei wneud o goed.  Mae disgwyliad oes offer dur galfanedig neu alwminiwm ddwywaith yn fwy na choed.  Mae offer dur hefyd angen llawer llai o waith cynnal a chadw, sy’n rhywbeth mae’n rhaid i ni ei ystyried.

Unwaith y bydd yr offer newydd wedi’i osod byddwn yn ystyried plannu mwy o goed o fewn neu o amgylch y parc.  O brofiad rydym wedi canfod ei bod yn anodd iawn a drud i sefydlu coed newydd mewn meysydd chwarae gan fod y coed yn cael eu difrodi (naill ai drwy chwarae neu’n fwriadol).

Nid ydym yn annog chwarae pêl-droed yn y maes chwarae i blant, felly ni fyddwn yn darparu unrhyw gyfleusterau o fewn yr ardal wedi’i ffensio.  Mae yna 2 gôl ar y cae pêl-droed y tu allan i’r maes chwarae.

end content