Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cael Gwared ar Arwyddion Dim Gemau Pêl


Summary (optional)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn credu bod chwarae yn bwysig a dylai cymaint o’n mannau agored â phosibl ganiatáu i blant chwarae'n rhydd. Oherwydd hyn rydym ni’n credu y dylid cael gwared ar rai o’n harwyddion Dim Gemau Pêl.
start content

 Cliciwch yma i wylio fideo am bwysigrwydd chwarae a chael gwared ar arwyddion dim gemau pêl

Os ydych chi'n credu y dylid cael gwared ar arwydd Dim Gemau Pêl yn eich cymuned chi, cysylltwch â Thîm Datblygu Chwarae Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Cymru ar 01492 523850 neu llewnch y ffurflen isod a’i hanfon ar e-bost i Nathania.scyner@conwy.gov.uk.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi hawl plant i chwarae yn unol â chynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Fodd bynnag, pan mae plant a phobl ifanc yn chwarae tu allan gofynnwn eu bod yn ystyried preswylwyr eraill yn yr ardal.  

Pan mae cais i gael gwared ar arwydd Dim Gemau Pêl yn cael ei wneud cwblheir archwiliad o’r ardal ac ymgynghorir â phreswylwyr lleol, y cynghorydd lleol a Swyddog Lleol Cymorth Cymunedol yr Heddlu cyn gwneud penderfyniad i gael gwared ar yr arwydd.

end content