Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Llyfrgelloedd, Archifau a Diwylliant Archifau Rhoi/cyflwyno cofnodion i'r Gwasanaeth Archifau

Rhoi/cyflwyno cofnodion i'r Gwasanaeth Archifau


Summary (optional)
 
start content

Pa fath o gofnodion y mae gan Gwasanaeth Archifau Conwy ddiddordeb ynddynt?

Unrhyw fath o gofnod gwreiddiol - boed yn bapurau, yn ffotograff neu’n gofnod ar ffurf ddigidol - a fydd yn dweud wrth genedlaethau'r dyfodol am fywyd yng Nghonwy yn y gorffennol neu heddiw.

Beth yw manteision rhoi neu gyflwyno cofnodion yn yr Archifau?

Gall pobl sy’n rhoi ac yn cyflwyno gael sicrwydd y bydd eu cofnodion yn cael eu storio mewn amodau arbenigol sy’n ffafriol i sicrhau eu bod yn goroesi yn y tymor hir ac y byddant yn cael eu didoli a'u rhestru i safonau proffesiynol a, lle bo angen a lle mae adnoddau yn caniatáu, eu trwsio a'u cadw.

Yn ogystal, bydd y cofnodion ar gael, mewn amodau wedi’u goruchwylio'n ofalus, i'r cyhoedd yn ddi-dâl (wrth gwrs, rydym yn cydnabod y bydd peth deunydd yn cynnwys gwybodaeth sensitif neu gyfrinachol ac mewn achosion o'r fath, byddem yn ymrwymo i sicrhau na fydd y cofnodion hyn ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am y nifer o flynyddoedd a gytunwyd). Ni chodir tâl am gadw cofnodion y bernir eu bod o ddiddordeb hanesyddol fel rheol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar:

end content