Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Telerau ac Amodau Gwasanaeth Llyfrgell Conwy


Summary (optional)
start content

Trwy ymaelodi â’r llyfrgell, rydych chi’n cadarnhau eich bod wedi darllen a derbyn telerau ac amodau'r aelodaeth ac yn cytuno i gadw at y telerau hyn ar gyfer hyd y cytundeb.

Amodau cyffredinol yr aelodaeth:

  • Mae aelodaeth ar-lein yn rhoi'r hawl i chi ddefnyddio ein casgliadau digidol megis eLyfrau, llyfrau llafar a lawrlwythiadau. Pan fyddwch chi’n ymuno ar-lein cewch rif adnabod llyfrgell a rhif pin o’ch dewis chi, ar gyfer eich defnydd personol eich hun.
  • Mae aelodaeth llyfrgell lawn yn rhoi’r hawl i chi ddefnyddio’r holl wasanaethau llyfrgell a ddarperir gan Lyfrgelloedd Conwy a’n sefydliadau partner. Pan ymunwch chi fel aelod cyflawn, byddwch yn derbyn cerdyn aelodaeth llyfrgell a rhif pin, ar gyfer eich defnydd personol eich hun.
  • Mae gofyn i aelodau’r llyfrgell gyflwyno eu cerdyn aelodaeth wrth fenthyg eitemau a defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell.
  • Fel aelod o’r llyfrgell rydych chi’n gyfrifol am yr holl eitemau a fenthycir ar eich cerdyn llyfrgell, gan gynnwys unrhyw eitemau coll/wedi’u difrodi y gellid bod angen talu amdanynt, ac am dalu unrhyw ffioedd hwyr sy’n cronni ar eich cyfrif llyfrgell.
  • Os yw’r cerdyn ar goll rhaid i chi hysbysu’r llyfrgell.
  • Chi sy’n gyfrifol am ein hysbysu ni am unrhyw newidiadau i’ch manylion personol, er enghraifft newid cyfeiriad.
  • Gallwch derfynu eich cyfrif ar unrhyw adeg.
  • Pe dymunech ganslo eich aelodaeth llyfrgell, dylech ddychwelyd yr holl eitemau a fenthycwyd a dychwelyd eich cerdyn aelodaeth er mwyn ei ddiddymu. Os oes unrhyw ffioedd heb eu talu ar eich cyfrif llyfrgell, disgwylir i chi dalu amdanynt.

Defnydd o gyfrifiaduron y llyfrgell a’r rhyngrwyd:

  • I ddefnyddio ein cyfrifiaduron cyhoeddus, dylech fod yn aelod llawn o'r llyfrgell a dod â’ch cerdyn llyfrgell a’ch rhif pin gyda chi bob tro. Ni chaniateir trosglwyddo mynediad i’r we drwy aelodaeth Llyfrgell i unrhyw berson arall.
  • Os ydych chi o dan 16 oed fe gewch chi ffurflen ganiatâd i ddefnyddio’r we, er mwyn i’ch rhiant neu ofalwr ei arwyddo.
  • Ni all plant o dan 8 oed ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell oni bai y bydd rhiant neu ofalwr gyda nhw.
  • Cyfrifoldeb y rhiant neu ofalwr yw monitro a rheoli defnydd y plant yn eu gofal o’r rhyngrwyd a chyfrifiaduron y llyfrgell. Os ydych chi’n pryderu am y cynnwys y gall eich plentyn ei weld wrth ddefnyddio cyfrifiadur y llyfrgell, gofynnwn i rieni/gofalwyr ddod gyda’u plant ar eu hymweliad i’r llyfrgell.
  • Mae mynediad i’r we yn cael ei hidlo; ac mae pob mynediad yn cael ei gofnodi. Ni fydd cynnwys penodol unrhyw weithrediad yn cael ei fonitro oni bai bod amheuaeth o ddefnydd amhriodol.
  • Gall unrhyw achos o dorri’r Polisi Defnydd Derbyniol yn anghyfreithlon gael ei gyfeirio i gymryd camau cyfreithiol neu at yr heddlu.
  • Rhaid i chi gytuno i gadw at ein Polisi Defnydd Derbyniol er mwyn dechrau eich sesiwn ar y cyfrifiadur. 

Diogelu Data a chadw data personol:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn parchu’ch hawl i breifatrwydd ac wedi’i ymrwymo i'w ddiogelu yn unol â’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

  • Mae’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni wrth ymuno â’r llyfrgell yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r cytundeb rhyngom ni.
  • Gall methu â darparu'r wybodaeth hon arwain at ddileu ein cytundeb.

Mae Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Llyfrgell yn egluro sut rydym yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau.

  • Ni fyddwn yn cadw’ch gwybodaeth yn hirach na’r angen, oni fydd hynny’n ofynnol dan y gyfraith.
Atodlen sy’n nodi am faint o amser rydym ni’n cadw gwahanol fathau o wybodaeth
Pwrpas y wybodaeth Disgrifiad o’r wybodaethAm ba hyd y caiff y wybodaeth ei chadw 

Rheoli Cyfrif Defnyddiwr

Ffurflenni Cofrestru Papur
Llofnod ar gopi caled

Diwedd y cytundeb aelodaeth + 1 flwyddyn

Rheoli Cyfrif Defnyddiwr

Data personol a gedwir ar gyfrif llyfrgell* ar gronfa ddata System Rheoli’r Llyfrgell.
*Os bydd cyfrif yn segur am gyfnod o 24 mis, byddwn yn cau a dileu’r cyfrif.  

Diwedd y cytundeb aelodaeth + 1 flwyddyn

Rheoli Cyfrif Defnyddiwr

Defnyddwyr gydag eitemau/ffioedd heb eu dychwelyd neu dalu ar eu cyfrif ar ddiwedd y cytundeb.

Diwedd y cytundeb aelodaeth + 6 blynedd

Rheoli Cyfrif Defnyddiwr

Hanes benthyca defnyddiwr llyfrgell.

Cytundeb diwedd aelodaeth + 1 flwyddyn

Defnydd cyfrifiadur defnyddiwr llyfrgell

Data personol a gedwir ar gyfrif llyfrgell ar gronfa ddata System Rheoli’r Llyfrgell.

Cytundeb diwedd aelodaeth + 1 flwyddyn

Defnydd cyfrifiadur defnyddiwr llyfrgell

Data sesiynau a gedwir ar feddalwedd Rheoli Cyfrifiaduron.

3 blynedd yna gwneir yn anhysbys am 2 flynedd yna ei ddileu

Defnydd cyfrifiadur defnyddiwr llyfrgell Hanes defnyddiwr llyfrgell ar y rhyngrwyd. Data anhysbys a gedwir am gyfnod dros dro er mwyn helpu i ddatgelu camddefnydd. 1 mis

Dileu gwybodaeth

Bydd data'n cael ei ddileu ar gais, os nad yw’n angenrheidiol i’r gwasanaeth neu’n angen cyfreithiol i gadw’r data.

Data sesiynau a gedwir ar feddalwedd Rheoli Cyfrifiaduron.

Dileu’r ar ôl 90 diwrnod.

Monitro defnydd a thorri telerau

Defnyddwyr sydd wedi eu gwahardd rhag defnyddio gwasanaethau yn unol â’n polisi gwahardd.

Diwedd y cytundeb aelodaeth + 6 blynedd

Bydd data sydd ynghlwm a gwaharddiad penagored yn cael ei gadw yn unol ag unrhyw ofyniad cyfreithiol.

Gweithgareddau llyfrgell Os ydych chi wedi cofrestru i fynd i weithgaredd a arweinir gan y llyfrgell yn rheolaidd e.e. grŵp darllen.

Blwyddyn bresennol + 1 flwyddyn
NEU
Diwedd y cytundeb aelodaeth + 6 blynedd

Gall methu â chydymffurfio â’r telerau a'r amodau hyn arwain at eich gwahardd neu ddiddymu eich aelodaeth o'r llyfrgell.

Mae’r telerau a'r amodau hyn wedi eu creu o dan Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964 ac yn unol ag is-ddeddfau Llyfrgell Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, 1998 (PDF).

end content