Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffyrdd Amrywiol, Dolgarrog a Tyn y Groes - Gwahardd a Chyfyngu ar Aros: Gorchymyn


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn bwriedig yw:
  • cynnal llif esmwyth traffig a gwella diogelwch ar y ffyrdd
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Dolgarrog a Tyn y Groes) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2022


Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1 a 2 (a Rhan IV Atodlen 9), Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori efo Prif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor") yn gwneud drwy hyn y Gorchymyn canlynol -

  • 1.  Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y 14 dydd o Rhagfyr Dwy fil a dau ar hugain a gellir ei ddyfynnu fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Dolgarrog a Tyn y Groes) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2022."

  • 2.
    • (1)  Yn y Gorchymyn hwn -
      • mae "safle tacsis awdurdodedig" yn golygu unrhyw ran o ffordd gerbydau sydd wedi ei gynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1028.2 yn Atodlen 6 Rheol-iadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Trafnidiaeth Ffyrdd 2016;
      • mae "lle parcio awdurdodedig" yn golygu unrhyw le parcio, ar ffordd, sydd wedi ei awdur-dodi neu wedi ei ddynodi gan Orchymyn sydd wedi ei wneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi cael ei wneud dan y Ddeddf honno;
      • mae "safle bysiau" yn golygu unrhyw ddarn o ffordd gerbydau a ddynodir mewn unrhyw Erthygl neu Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel un sydd wedi ei fwriadu ar gyfer aros gan fysiau sydd wedi ei gynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1025.1, 1025.3 neu 1025.4 yn Atodlen 6 Rheoliadau Arwyddion Trafnidiaeth a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2002;
      • mae gan "cerbyd hacni" yr un ystyr ag sydd gan "hackney carriage" yn Adran 38(1) Deddf Cerbydau (Tollau) 1971;
      • mae gan "bathodyn unigolyn gydag anabledd" yr un ystyr ag sydd gan "disabled person's badge" yn Rheoliadau Pobl Gydag Anabledd (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000;
      • mae gan "disg parcio" yr un ystyr ag sydd gan "parking disc" yn Rheoliad Rhif 8 Rheoliadau Gorchmynion Trafnidiaeth Awdurdodau Lleol (Esgusodiadau ar gyfer Pobl Gydag Anabl-edd) (Cymru) 2000.

    • (2)  I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd yn y lle perthnasol -
      • (a)  pan nad yw'r bathodyn wedi peidio â bod mewn grym; a
      • (b)
        • (i)  pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu
        • (ii)  pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos mewn lle amlwg ar flaen neu ar ochr agos y cerbyd (os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â bord-en flaen neu banel deialau), fel bod modd darllen blaen y bathod-yn yn glir o'r tu allan i'r cerbyd.

    • (3)  I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos disg parcio yn y lle per-thnasol - 
      • (a)  pan fo'r disg yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu
      • (b)  pan fo'r disg yn cael ei arddangos mewn man amlwg ar y cerbyd, os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â borden flaen neu banel deialau.

    • (4)  Ac eithrio lle nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at Erthygl neu Atodlen rifedig yn gyfeiriad at yr Erthygl neu Atodlen sydd â'r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

  • 3.  Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 5 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau o ffordd a nodir yn Atodlen 1 y Gorchymyn hwn

  • 4.  Ac eithrio fel y darperir yn Erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn ni chaiff neb, ac eithrio ar gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodi sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros am fwy na 120 munud, 8am i 7pm heb ddychwelyd o fewn 120 munud ar y darn o ffordd a nodir yn Atodlen 2

  • 5.
    • (1)  Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3 a 4  y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darn(au) ffordd a gyfeirir atynt yn yr Erthyg-lau hynny, am gyhyd ag y bydd angen i ganiatáu -
      • (a)  Unigolyn i fynd i mewn i gerbyd neu ddod allan ohono
      • (b)  Nwyddau i gael eu llwytho ar y cerbyd neu gael eu dadlwytho oddi arno
      • (c)  defnyddio’r cerbyd, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r gweithgareddau can-lynol, sef -
        • (i)  Gweithrediadau adeiladu, dymchwel neu ddiwydiannol
        • (ii)  Symud unrhyw rwystr ar draffig
        • (iii)  Cynnal, gwella neu ailadeiladu'r darn[au] ffordd dan sylw
        • (iv)  Gosod, codi, newid, neu atgyweirio, ar dir cyfagos i’r darn(au) ffordd dan sylw, unrhyw garthffos, neu unrhyw brif bibell neu gyfarpar cyflenwi nwy, dwr neu drydan, neu unrhyw offer telegyfathrebu fel y mae'r rheiny'n cael eu diffinio yn Neddf Telegyfathrebu 1984
      • (ch)  Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwyl-us i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, at wasanaeth awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau stat-udol
      • (d)  Cerbyd darparwr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 o Ddeddf Gwasan-aethau Post 2000
      • (dd)  Galluogi'r cerbyd i aros gerbron neu yn agos at unrhyw adeilad sydd wedi ei leoli ar y darn[au] ffordd dan sylw neu'n gyfagos iddynt, am gyhyd ag y bydd angen rhesymol i'r cerbyd hwnnw aros yno mewn cysylltiad ag unrhyw briodas neu gynhebrwng
      • (e)  Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio i bwrpasau brigâd dân, yr heddlu neu ambiwlans

    • (2)  Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3 y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i gerbyd unigolyn gydag anabledd sy'n arddangos, yn y lle perthnas-ol, fathodyn unigolyn gydag anabledd a disg parcio (lle mae'r gyrrwr, neu unigolyn arall sydd â gofal am y cerbyd, wedi nodi'r amser y dechreuodd y cyfnod aros) aros ar y darn[au] ffordd a gyfeiriwyd atynt yn yr Erthyglau hynny am gyfnod o ddim mwy na 3 awr (ar yr amod bod cyfnod o ddim llai nag 1 awr wedi mynd heibio ers diwedd unrhyw gyfnod blaenorol o aros gan yr un cerbyd ar yr un diwrnod).

    • (3)  Nid oes dim yn Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i gerbyd person anabl sy'n arddangos yn y safle perthnasol bathodyn person anabl i aros am gyfnod diderfyn o amser ar hyd y darn o ffordd y cyfeirir ati yn yr Erthygl honno.

  • 6.  Pan fo unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gwrthdaro ag amod sydd wedi ei gynnwys mewn Gorchymyn sydd wedi ei wneud, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi ei wneud, dan Ddeddf 1984, ac sydd mewn grym pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, ac sy'n gosod cyfyngiad neu waharddiad ar gerbydau heblaw bysiau neu goetsys cyflym mewn arhosfan bysiau, neu'n esgusodi rhag cyfyngiad neu waharddiad o'r fath, darpariaeth y Gorchymyn hwnnw fydd drechaf.

  • 7.  Bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod gan y Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad neu amod sy'n cael ei osod gan unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe baent wedi eu gwneud naill ai dan y Ddeddf honno neu gan unrhyw ddeddf arall, ac ni fyddant yn tynnu oddi wrtho

 

Atodlen 1 - Dim aros ar unrhyw adeg

Ffordd Conwy, Dolgarrog - L/1/11/21/01C

  • Ochr y dwyrain:  o’i chyffordd gyda Clark Street am bellter o 70 metr i gyfeiriad y de.
  • Ochr y dwyrain:  o’i chyffordd gyda Clark Street am bellter o 80 metr i gyfeiriad y gogledd

Ffordd dienw (sy’n arwain at safle Dŵr Cymru) - L/1/11/21/01C

  • Ochr y gogledd:  o’i chyffordd gyda Ffordd Conwy am bellter o 7 metr tua’r gogledd-ddwyrain.
  • Ochr y de:  o’i chyffordd gyda Ffordd Conwy am bellter o 20 metr tua’r gogledd-ddwyrain

Ffordd Conwy, Tyn y Groes - L/1/7/21/01

  • Ochr y Gorllewin:  o bwynt 16 metr i'r de orllewin o'i chyffordd â Ffordd Rowen, Sgriven am bellter o 24 metr tua’r gogledd ddwyrain.
  • Ochr y Gorllewin:  o bwynt 53 metr i'r gogledd ddwyran o'i chyffordd â Ffordd Rowen, Sgriven am bellter o 24 metr tua’r gogledd orllewin.
  • Ochr y dwyrain:  o bwynt 53 metr i’r gogledd dwyrain o’i chyffordd â Rowen Road, Sgriven i’w chyffordd â’r B5279 Ffordd Tal y Cafn i Ty’n y Groes

Hillside, Dolgarrog - L/1/11/21/02C

  • Y ddwy ochr:  o bwynt 45 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Ffordd Conwy am bellter o 27 metr i gyfeiriad y gorllewin, ac yna i gyfeiriad y de

Atodlen 2 - Cyfyngu amser aros i 120 munud, 8am tan 7pm, heb hawl i ddychwelyd o fewn 120 munud

Ffordd Conwy, Dolgarrog - L/1/11/21/01C

  • Ochr y gorllewin:  o bwynt 1 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Clark Street am bellter o 21 metr i gyfeiriad y gogledd.
  • Ochr y gorllewin:  o bwynt 5 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Clark Street am bellter o 65 metr i gyfeiriad y de

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y 8 dydd o Rhagfyr Dwy fil a dau ar hugain.

TSOSeal08122022


Tudalen Nesaf: Mapiau

end content