Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Beth yw Gorchmynion Rheoli Traffig (GRT)?


Summary (optional)
Dogfen gyfreithiol yw Gorchymyn Rheoli Traffig (GRT) sy’n nodi'r cyfyngiadau mewn ardal sy’n cael eu nodi gan arwyddion traffig a marciau ffordd ar ffyrdd.
start content

Ar gyfer beth mae Gorchymyn Rheoli Traffig?


Rydym yn cyflwyno Gorchmynion Rheoli Traffig i newid cyfyngiadau parcio a chyfyngiadau traffig ar ffyrdd yn Sir Conwy. Rydym yn ystyried newidiadau sy’n atal perygl i ddefnyddwyr y priffyrdd ac yn cynnal llif traffig. Maent yn ymdrin â phethau megis:

  • Gwahardd parcio drwy gydol y diwrnod neu ran o’r diwrnod;
  • Caniatáu parcio am gyfnod cyfyngedig yn unig neu gan fath penodol o gerbyd yn unig;
  • Cyfyngu ar symudiadau cerbydau penodol er enghraifft dim mynediad, un ffordd, dim troi i’r dde neu’r chwith, cyfyngiadau pwysau.

Fel arfer, ni ellir defnyddio Gorchymyn Rheoli Traffig i:

  • Ddynodi mannau parcio ar y priffyrdd ar gyfer unigolion, ac eithrio dan amgylchiadau penodol ar gyfer gyrwyr anabl;
  • Cyfyngu ar barcio ar strydoedd preswyl oni bai bod angen am barcio preswyl sy’n bodloni meini prawf penodol;
  • Atal rhwystr, yn benodol ar ddreifiau preifat;
  • Atal mynediad cerbydau danfoniadau.

 

Sut ydym ni'n cyflwyno Gorchymyn Rheoli Traffig?


Mae Gorchmynion Rheoli Traffig yn ddewis olaf a byddwn yn osgoi cyfyngu symudiad traffig os yn bosibl.

Byddwn yn archwilio unrhyw bryderon a gyflwynir gan drigolion. Byddwn yn ceisio rhoi gwybod i chi o fewn 6 wythnos os credwn mai Gorchymyn Rheoli Traffig yw’r ffordd orau o ddatrys y broblem. Os mai dyna’r achos, bydd yn cael ei gynnwys ar raglen Gorchymyn Rheoli Traffig.

Mae’r rhaglen Gorchymyn Rheoli Traffig yn amserlen dreigl 3 blynedd, gyda gwahanol ardaloedd o’r sir yn cael eu hystyried bob blwyddyn.

Amserlen rhaglen Gorchymyn Rheoli Traffig 2022 - 2026 (PDF, 1MB)

Gall gymryd hyd at 18 mis i brosesu Gorchymyn Rheoli Traffig newydd.  

Mae’r broses ar gyfer datblygu Gorchymyn Rheoli Traffig yn cynnwys:

  • Ymgynghoriad anffurfiol gyda grwpiau ac unigolion cysylltiedig;
  • Hysbysebu’r cynigion yn y wasg leol, ar wefan y cyngor a gosod hysbysiadau ar y stryd;
  • Ystyried sylwadau a gwrthwynebiadau (os na allwn ddatrys gwrthwynebiadau, gallai hyn ein hatal rhag cwblhau’r Gorchymyn Rheoli Traffig);
  • Cadarnhau a hysbysebu’r Gorchymyn Rheoli Traffig newydd;
  • Cwblhau arwyddion traffig a marciau ffordd.

 

Sut allaf i wneud sylwadau ar y cynigion Gorchymyn Rheoli Traffig?


Mae cynigion Gorchymyn Rheoli Traffig yn cael eu hysbysebu ar wefan y cyngor
, yn y wasg leol ac mae copi caled yn cael ei osod yn y safle dan sylw. Mae 28 diwrnod calendr i gyflwyno gwrthwynebiad.

end content