Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol o 6pm ar 7/12/17 yn effeithio ar ein gwasanaethau rhyngrwyd, gan gynnwys gwefannau ac e-bost.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Oedolion Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid

Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS)


Summary (optional)
Mae Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn darparu amddiffyniad cyfreithiol i bobl mewn cartrefi gofal ac ysbytai sy'n ddiamddiffyn oherwydd nad oes ganddynt y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau ynglŷn â lle maent yn byw a'r ffordd y maent yn derbyn gofal.
start content

TREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID

Mae Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn darparu amddiffyniad cyfreithiol i bobl ddiamddiffyn mewn ysbytai neu gartrefi gofal a all fod yn derbyn gofal mewn ffordd sy’n golygu eu bod yn colli eu rhyddid er mwyn eu diogelu rhag niwed. Cyflwynwyd y trefniadau diogelu hyn gan ddeddfwriaeth y llywodraeth yn 2007 fel rhan o'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Maent yn welliant i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Os hoffech chi dderbyn mwy o wybodaeth am y ddeddfwriaeth hon a’r Codau Ymarfer sy'n egluro sut y mae'r gyfraith yn cael ei gweithredu, yna ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Bwriad y trefniadau diogelu yw amddiffyn hawliau pobl sy’n methu gwneud penderfyniadau ynghylch gofal neu driniaeth sydd arnynt angen; efallai oherwydd cyflwr fel dementia, problem iechyd meddwl, anabledd dysgu dwys neu anaf i'r ymennydd.

I bwy y mae’r Trefniadau Diogelu yn berthnasol?

Mae'r Trefniadau Diogelu yn berthnasol i bobl sy’n: 

  • 18 oed neu’n hŷn
  • byw mewn cartref preswyl neu nyrsio, neu’n glaf mewnol mewn ysbyty (GIG neu breifat) 
  • dioddef o anhwylder meddwl neu anabledd y meddwl, e.e. dementia, anaf i'r ymennydd neu anabledd dysgu dwys
  • ac yn methu cydsynio i drefniadau mewn perthynas â’u gofal neu eu triniaeth

Os ydych chi’n pryderu ynghylch unigolyn yn colli ei ryddid, ac nad yw’n cael ei ddiogelu dan ddeddfwriaeth diogelu rhag colli rhyddid (e.e. unigolyn 16-17 oed neu unigolyn sy’n derbyn gofal yn y cartref, mewn coleg preswyl neu leoliad 'byw â chymorth'), yna mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cynnig ffyrdd eraill o amddiffyn ei hawliau.

Cysylltwch â'n Tîm Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar 01492 577823 i dderbyn cyngor.

Beth yw colli rhyddid?

Pan na fydd unigolion yn gallu cydsynio i ofal neu driniaeth weithiau mae'n well gofalu amdanynt mewn ffordd lle maent yn colli eu rhyddid, neu o leiaf felly yr ymddengys hi.

Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i staff gofal atal unigolyn rhag gadael cartref gofal neu ysbyty rhag ofn iddo fynd ar goll neu gael niwed; efallai y bydd yn rhaid i staff wneud y rhan fwyaf o'r dewisiadau mewn perthynas ag arferion dydd i ddydd unigolyn sy'n byw mewn cartref gofal oherwydd nad yw’r unigolyn hwnnw’n gallu gwneud y dewisiadau hyn drosto ef ei hun; neu efallai y bydd yn rhaid i staff wybod lle mae unigolyn 24 awr y dydd er mwyn ei gadw’n saff.

Ar hyn o bryd mae ‘trefniadau diogelu rhag colli rhyddid’ wedi’u diffinio’n fras, felly gall hyd yn oed unigolyn sy’n gallu gadael cartref gofal ar ei ben ei hun bob dydd, dan rai amgylchiadau, gael ei ystyried fel unigolyn wedi ‘colli ei ryddid’.

Nid yw hi bob amser yn gwneud gwahaniaeth pa un ai yw unigolyn yn cwyno am ei ofal ai peidio, neu ddim yn gofyn am gael gadael y cartref neu’r ysbyty; yn hytrach, y ffactor pwysicaf yw’r anallu i gydsynio i drefniadau gofal neu driniaeth oherwydd diffyg galluedd meddyliol.

Beth yw pwrpas Deddfwriaeth Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid?

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, yn bodoli i sicrhau nad oes unrhyw un yn colli ei ryddid heb reswm da ac, os oes angen amddifadu rhywun o'i ryddid, bod gan yr unigolyn hwnnw hawliau penodol. Mae'r hawliau hyn wedi’u cynnwys o fewn Deddfwriaeth Hawliau Dynol 1998.

Mae’n rhaid i unrhyw golled rhyddid y mae unigolyn yn ei brofi fod yn unol â’r trefniadau lleiaf rhwystrol sydd ar gael o fewn yr adnoddau ac mae’n rhaid i drefniadau o’r fath fod yn gymesur â thebygolrwydd a difrifoldeb y niwed y gall yr unigolyn ei gael heb drefniadau diogelu yn eu lle. Gellir penodi eiriolwyr annibynnol a chynrychiolwyr i sicrhau bod pawb yn derbyn cefnogaeth yn ystod y broses asesu.

Bwriad trefniadau diogelu yw sicrhau bod unrhyw un sy'n colli ei ryddid yn gallu herio'r penderfyniad a bod asesiad rheolaidd ac annibynnol yn cael ei gynnal o ran a yw’r trefniadau diogelu rhag colli rhyddid yn dal yn berthnasol ac er budd pennaf yr unigolyn.

Sut yr awdurdodir trefniadau diogelu rhag colli rhyddid?

Yr Awdurdod Rheoli yw’r cartref neu’r ysbyty y mae unigolyn yn preswylio ynddo pan fydd yn colli ei ryddid.

Pan fo’r Awdurdod Rheoli yn credu ei fod yn gofalu am rywun sy’n methu cydsynio mae’n rhaid iddo wneud cais i'r 'Corff Goruchwylio’ i awdurdodi trefniadau diogelu rhag colli rhyddid. O ran cartrefi gofal, yr Awdurdod Lleol lle mae’r unigolyn yn preswylio yno fel arfer yw’r Corff Gorchwylio. O ran ysbytai, y Corff Goruchwylio yw Bwrdd Iechyd Lleol yr ysbyty y mae’r unigolyn yn glaf ynddo.

Pan fydd y Corff Goruchwylio yn derbyn cais i awdurdodi trefniadau diogelu rhag colli rhyddid bydd yn penodi 'Aseswr Budd Pennaf’. Bydd yr aseswr yn trefnu ac yn cynnal yr asesiadau angenrheidiol i sicrhau, os yw unigolyn yn colli ei ryddid, bod hynny’n cael ei wneud er budd yr unigolyn ac yn gymesur â thebygolrwydd a difrifoldeb unrhyw niwed posibl. Bydd hefyd yn sicrhau mai hon yw’r ffordd leiaf gyfyngol o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ddiwallu anghenion yr unigolyn.

Disgwylir i’r aseswr weithredu'n annibynnol.

Yn ystod y broses cynhelir asesiad i weld a yw'r unigolyn yn meddu ar y gallu i wneud penderfyniadau o ran llety, gofal a thriniaeth. Bydd yr aseswr hefyd yn gofyn i feddyg cymwys asesu sut y bydd colli rhyddid yn effeithio ar iechyd a lles meddwl y person. Fel rheol bydd ar yr aseswr eisiau siarad efo teulu neu ffrindiau’r unigolyn. Efallai y bydd hefyd yn gofyn i Eiriolwr Gallu Meddyliol Annibynnol gynorthwyo. Bydd yr aseswr yn ceisio dysgu cymaint ag y gallai am ddymuniadau a theimladau’r unigolyn ynghylch ei ofal.

Ar ôl cwblhau’r asesiad, ac os yw’n fodlon bod yr holl ofynion yn cael eu bodloni a bod trefniadau diogelu rhag colli rhyddid er budd pennaf yr unigolyn, bydd yr aseswr yn argymell i’r Corff Goruchwylio awdurdodi’r trefniadau. Os bydd y Corff Goruchwylio yn awdurdodi’r trefniadau byddant yn gwneud hynny am gyfnod cyfyngedig - hyd at uchafswm o ddeuddeg mis.

Gall yr aseswr hefyd gynnwys amodau neu wneud argymhellion i sicrhau bod lles yr unigolyn yn cael ei hyrwyddo a bod gofal yn cael ei ddarparu yn y ffordd leiaf gyfyngol.

Beth sy'n digwydd pan fydd yn rhaid i’r Awdurdod Rheoli wneud Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar frys?

Gall yr Awdurdod Rheoli gymeradwyo 'Awdurdodiad Brys’. Gall yr awdurdodiad hwn bara hyd at saith niwrnod (dan rai amgylchiadau gellir estyn y cyfnod saith niwrnod arall). Mae’n rhaid iddo hefyd, ar yr un pryd, wneud cais i'r Corff Goruchwylio am Dystysgrif Awdurdodi Safonol.

Beth sy'n digwydd ar ôl awdurdodi Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid?

Yn ystod yr asesiad bydd yr aseswr neu atwrneiaeth les, os oes un, yn nodi rhywun i weithredu fel cynrychiolydd yr unigolyn ar gyfer Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, sef Cynrychiolydd y Person Perthnasol. Gall y cynrychiolydd fod yn gyfaill, yn aelod o’r teulu neu’n gynrychiolydd annibynnol. Gall yr unigolyn neu gynrychiolydd ofyn i'r Corff Goruchwylio adolygu awdurdodiad y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid a herio'r amddifadedd o ryddid yn y Llys Gwarchod.

Disgwylir i’r cynrychiolydd ymweld â'r unigolyn yn rheolaidd a rhoi gwybod i’r Corff Gorchwylio am unrhyw bryder sydd ganddo ynghylch y trefniadau diogelu rhag colli rhyddid, e.e. os nad ydynt yn credu bod yr amodau yn cael eu bodloni.

Anogir cynrychiolwyr i gysylltu â Thîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i drafod unrhyw bryder neu i dderbyn eglurhad ynghylch unrhyw fater o ansicrwydd.

Os ydynt yn dymuno, gall yr unigolyn a'i gynrychiolydd gael mynediad at gefnogaeth Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol.

Mae Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid wedi’u hawdurdodi ar gyfer cyfnod a lleoliad penodol. Ar ddiwedd y cyfnod penodedig, neu os bydd yr unigolyn yn symud, bydd angen awdurdodiad newydd a bydd angen ail-adrodd y broses.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n credu bod rhywun yn cael ei amddifadu o'i ryddid mewn ysbyty neu gartref gofal?

Yn gyntaf, siaradwch â rheolwr y cartref neu’r staff nyrsio a gofyn a ydynt wedi gwneud cais i awdurdodi Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid. Os nad ydynt, ac os nad ydych chi’n fodlon â’r rheswm a roddwyd dros hynny, gofynnwch iddynt wneud cais.

Gallwch hefyd gysylltu â'r Awdurdod Lleol yn uniongyrchol. Os dilynwch y ddolen isod ar wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘Ffurflenni Safonol Diwygiedig Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid’ fe welwch chi ffurflen '1b', sy’n ffurflen ddefnyddiol i chi wneud hynny.

Gwybodaeth i Awdurdodau Rheoli

Dylai Awdurdodau Rheoli sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'u cyfrifoldebau dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a'r rhannau hynny o God Ymarfer Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid sy'n berthnasol iddynt. Cysylltwch â Thîm Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.

Mae'r Cod Ymarfer yn nodi y dylai’r Awdurdod Rheoli (oni bai fod rheswm da) roi gwybod i deulu, ffrindiau a gofalwyr yr unigolyn perthnasol, ac unrhyw Wasanaeth Eirioli Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol sy’n ymwneud ag achos yr unigolyn, bod cais am awdurdodiad Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid wedi’i gyflwyno.

Cofiwch sicrhau eich bod wedi ystyried ffyrdd llai cyfyngol o ddiwallu anghenion yr unigolyn a bod eich cynlluniau gofal a’ch asesiadau risg o ran colli rhyddid yn egluro’r rhesymeg yn glir dros y trefniadau rydych chi’n bwriadu eu rhoi ar waith.

Mae'r ffurflenni sydd arnoch chi angen eu llenwi i gael Awdurdodiad Brys ac i ofyn am Awdurdodiad Safonol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y ddolen isod i dudalen 'Ffurflenni Safonol Diwygiedig Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid' (ffurflenni 1 ac 1a).

Ar ôl eu llenwi, anfonwch y ffurflenni, ynghyd â chopïau o gynlluniau gofal ac asesiadau risg perthnasol yr unigolyn, at diogelu@conwy.gov.uk.  

Mae’r gyfraith o ran Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn dal yn cael ei datblygu. Mae'r wybodaeth uchod yn ganllaw cyffredinol ac ni ddylid ei hystyried fel datganiad diffiniol o'r gyfraith. Os oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Tîm Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid.

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth a chyngor annibynnol ar wefannau y llywodraeth, sefydliadau gwirfoddol a gwefannau sefydliadau sy'n delio â chyfraith iechyd a gofal cymdeithasol, e.e. Cymdeithas Alzheimer's, Mind Cymru, Comisiwn y Gyfraith, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru.

Ar gyfer ffurflenni safonol diwygiedig Cymraeg Diogelu Rhag Colli Rhyddid, dilynwch y ddolen isod:

http://gov.wales/topics/health/nhswales/mental-health-services/policy/dols/?skip=1&lang=cy

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content

Dod o hyd i'ch ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cyngor agosaf a mwy