Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Eiriolaeth


Summary (optional)
Mae eiriolaeth yn golygu cael cefnogaeth gan unigolyn arall i’ch helpu i fynegi eich safbwyntiau a’ch dymuniadau, a’ch helpu i wneud safiad dros eich hawliau. Eich eiriolwr yw rhywun sy’n eich helpu gyda hyn.
start content

Beth mae eiriolwr yn ei wneud?

Byddant yn:

  • Sicrhau eich bod â llais ac yn cael atebion
  • Eich grymuso
  • Eich helpu i wneud pethau ddigwydd a newid
  • Eich cefnogi i wneud dewisiadau a chymryd mwy o reolaeth
  • Gweithio dros eich hawliau cyfartal a chynhwysiant

Ni fyddant yn

  • Rhoi cyngor i chi
  • Cymryd rheolaeth oddi arnoch
  • Gweithredu fel dyfarnwr mewn dadleuon neu anghydfodau
  • Chwarae rôl gweithiwr cymdeithasol

Sut i gael eiriolwr

Cysylltwch ag un o’r Gwasanaethau eirioli annibynnol isod:

 

TGP Cymru– Gwasanaeth Eiriolaeth Gogledd Cymru


Mae TGP Cymru wedi datblygu ffilm ynghylch eiriolaeth a’r ‘cynnig gweithredol’ o’r enw ‘Is Anyone Listening?’ Gallwch ei wylio yma ar You Tube:

 

Mae TGP Cymru yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n ‘derbyn gofal’, ‘plant sydd angen gofal a chefnogaeth, a’r rhai ‘sy’n gadael gofal’.

 

Canolfan Dewis ar gyfer Byw yn Annibynnol


Dyma sefydliad gwirfoddol i bobl anabl a’r rhai sydd ddim yn anabl. Maent yn darparu gwasanaethau sy’n cefnogi ac yn ymateb i ddymuniad pobl anabl i gael dewis yn eu bywydau.

 

Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych


Mae hwn yn wasanaeth eiriolaeth annibynnol, cyfrinachol ac am ddim i bobl ifanc ac oedolion sydd â chyflyrau iechyd meddwl.

 

Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru (ASC)


Mae ASC yn arbenigo mewn darparu eiriolaeth broffesiynol, gyfrinachol ac annibynnol ar gyfer y sawl sy'n gymwys mewn lleoliadau gofal eilaidd ac iechyd meddwl cymunedol.

 

Mae gan wefan MEIC Cymru gyfleuster chwilio ar gyfer dod o hyd i brosiectau eiriolaeth yn eich ardal chi, ynghyd â manylion am bob gwasanaeth a map rhyngweithiol.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content