Bydd y Bwrdd yn goruchwylio rhaglen Strategaeth a Datblygu’r Gweithlu ar draws Gogledd Cymru, gan roi cyfarwyddyd o fewn cyd-destun rhanbarthol a chenedlaethol, gan sicrhau, mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid allweddol, ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i rannu ymagwedd er mwyn cynllunio a chyflwyno hyfforddiant i’r gweithlu.
Bydd y bwrdd yn ymgysylltu â phartneriaid allweddol i:
- Weithio gyda phartneriaid i adnabod yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol gan ein gwasanaethau cyfredol a’r rhai yn y dyfodol
- Cynorthwyo i ddarparu modelau gwasanaeth newydd drwy lunio rhaglenni datblygu’r gweithlu
- Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i gael gwybodaeth gywir a fydd yn llywio cynllunio a datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol
- Sicrhau defnydd effeithiol rhagweithiol o’r adnoddau sydd ar gael gan gynnwys gwariant refeniw ac amser staff
- Hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd a datblygu sgiliau o fewn ac ar draws prif sefydliadau a phartneriaid