Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion £10,000 fines introduced to tackle illicit tobacco

Cyflwyno dirwyon o £10,000 i fynd i'r afael a thybaco anghyfreithlon


Summary (optional)
start content

Cyflwyno dirwyon o £10,000 i fynd i'r afael a thybaco anghyfreithlon

Mae swyddogion Safonau Masnach Conwy yn croesawu’r sancsiynau newydd sy’n golygu bod busnesau ac unigolion sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon yn gallu wynebu cosb o hyd at £10,000.

Bydd gan swyddogion Safonau Masnach bellach y pŵer i atgyfeirio achosion i CThEF ar gyfer ymchwiliad pellach lle canfuwyd bod busnesau neu unigolion yn gwerthu tybaco anghyfreithlon. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y toriad, gallai busnesau ac unigolion sy'n torri rheolau:

  • Dderbyn cosb o rhwng £2,500 a £10,000 am gyflenwi cynhyrchion sy'n mynd yn groes i Ddilyn ac Olrhain Tybaco (TT&T)
  • Cael eu cynhyrchion tybaco wedi'u hatafaelu
  • Colli eu trwydded i brynu tybaco i'w ailwerthu yn y DU drwy dynnu eu ID Gweithredwr Economaidd yn ôl

Mae'r pwerau newydd yn adeiladu ar waith llwyddiannus Ymgyrch CeCe, menter ar y cyd rhwng CThEF a'r Safonau Masnach Cenedlaethol i fynd i'r afael â'r fasnach tybaco anghyfreithlon, sydd wedi tynnu 27 miliwn o sigaréts anghyfreithlon a 7,500kg o dybaco rholio â llaw rhag cael eu gwerthu yn ei ddwy flynedd gyntaf.

Mae masnach tybaco anghyfreithlon yn difrodi busnesau cyfreithlon, yn tanseilio iechyd y cyhoedd ac yn costio dros £2 filiwn i’r trysorlys mewn refeniw treth bob blwyddyn.

Meddai’r Cynghorydd Emily Owen, Aelod Cabinet Tai a Rheoleiddio, “Mae cael gwared ar dybaco anghyfreithlon oddi ar ein strydoedd yn dal yn flaenoriaeth i swyddogion Safonau Masnach Conwy. Mae tybaco anghyfreithlon yn ariannu gangiau troseddu cyfundrefnol ac yn targedu pobl ifanc diamddiffyn, yn ogystal â difrodi ein cymunedau a’n busnesau yma yng Nghonwy – felly rydym ni’n croesawu’r newidiadau yn y gyfraith.”

Meddai John Donnelly, Prif Swyddog Masnachu a Thrwyddedu, “Mae ein swyddogion yn parhau i weithio mewn partneriaeth gref gyda chydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi i rannu gwybodaeth, targedu troseddu cyfundrefnol ac i ddefnyddio’r holl adnodau sydd ar gael fel TCC a chŵn darganfod arian/tybaco i atal nwyddau ffug, peryglus ac anghyfreithlon rhag cael eu gwerthu yng Nghonwy.”

I ddarparu gwybodaeth am werthu tybaco yn anghyfreithlon cysylltwch â llinell gymorth twyll CThEF ar 0800 788 887 neu safonau.masnach@conwy.gov.uk

Wedi ei bostio ar 15/08/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content