2023 Prom a Mwy
Mae Prom a Mwy yn ddigwyddiad teuluol sy'n cael ei gynnal ar hyd promenâd Bae Colwyn ddydd Sadwrn 13 Mai 2023.
Mae yna lwythi o weithgareddau AM DDIM yn Prom a Mwy i ddifyrru’r teulu. Bydd ffair i’r rhai dewr, stondinau i’r siopwyr, adloniant i bawb, a byddwn yn gwneud y gorau o’n traeth bendigedig wrth gwrs.
Oes gennych chi blentyn egnïol yn eich teulu? Beth am ddod draw i roi cynnig ar ein gweithgareddau doniol megis pêl-droed swigen, sboncwyr, cwadiau plant a chriced yn rhad ac am ddim!
Mae digonedd o adloniant cyffrous ar gael i ymwelwyr iau hefyd. Mae’r Wheelie Play Bus yn fws dau lawr sydd wedi’i addasu i ddarparu ardal chwarae meddal, diogel a hwyliog ar gyfer plant 3 – 8 oed. Ac ar ôl i’w hamser orffen, mae llawer mwy ar gael er mwyn parhau â'r hwyl drwy'r dydd.
I’r rhai mwy creadigol, mae Prom a Mwy yn cynnig ystod o weithgareddau artistig, sy’n addas ar gyfer bob oed, fel ein cystadleuaeth cestyll tywod newydd sydd ar agor i bawb ac yn gyfle i arddangos eich sgiliau creadigol gyda thywod.
Bydd Prom a Mwy hefyd yn cynnwys ystod eang o stondinau gan elusennau a busnesau lleol. Mae digon o ddewis i chi siopa, mwynhau cinio neu fyrbryd o’n stondinau bwyd.
Ewch am hoe ac ymlaciwch yn ein cadeiriau o flaen y prif lwyfan ar y promenâd gan wylio nifer o berfformiadau cerddorol byw gan gerddorion, cantorion a phlant ysgol lleol drwy gydol y dydd.
Bydd ail lwyfan ar y pier eleni hefyd lle gallwch ymlacio a gwylio rhagor o’n perfformwyr lleol gyda hufen iâ, gallwch hefyd dynnu lluniau yn ein bwth lluniau 360.
Hoffem ddiolch i’n noddwyr, Cyngor Tref Bae Colwyn, Ffair Hwyl Knightly’s Fun Fair, Maethu Cymru Conwy a Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru am ein helpu i ddarparu Prom a Mwy eleni.
Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau mawr yn Sir Conwy, dilynwch Digwyddiadau Conwy | Facebook a Digwyddiadau Conwy (@DigwyddiadConwy) / Twitter a/neu Digwyddiadau yn Sir Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Sir Conwy yw’r amgylchedd iawn ar gyfer digwyddiadau gwych ac mae Prom a Mwy rhwng 10am-6pm, ddydd Sadwrn 13 Mai 2023 ar bromenâd Bae Colwyn.
Wedi ei bostio ar 25/04/2023