Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Trafodaethau cyllideb 2024/25 yn parhau yng Nghonwy

Trafodaethau cyllideb 2024/25 yn parhau yng Nghonwy


Summary (optional)
start content

Trafodaethau cyllideb 2024/25 yn parhau yng Nghonwy

Mae trafodaethau cyllideb wedi cael eu cynnal yng Nghonwy’r wythnos hon cyn cyfarfod y Cyngor i gymeradwyo cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25.

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Cyllid ac Adnoddau a’r Cabinet.

Cyflwynodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yr adroddiad a disgrifiodd y sefyllfa ariannol gymhleth sy’n wynebu awdurdodau lleol ar draws y DU ar hyn o bryd.

Dywedodd: “Bydd Aelodau’n ymwybodol iawn fod gennym, ar y cyd, rwymedigaeth gyfreithiol i osod cyllideb fantoledig ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

“Mae’n bwysig pwysleisio nad yw’r gyllideb hon yn un draddodiadol, mae’n cynnig amcangyfrif o’r arian fydd ei angen arnom i ddarparu gwasanaethau i’n trigolion a bodloni ein dyletswyddau cyfreithiol.

“Mae nifer o’r elfennau y tu hwnt i’n rheolaeth ni, yn arbennig dyraniadau cyflog, cyfraddau llog ac elfennau sylweddol eraill megis gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd sy’n seiliedig ar alw.

“Unwaith eto, rydym ni, fel aelodau’n wynebu’r her o geisio cydbwyso toriadau pellach i wasanaethau a chynyddiadau amhoblogaidd a chosbedigol i lefelau treth y Cyngor.

“Dros yr un ar ddeg mlynedd diwethaf, mae’r awdurdod wedi gwneud toriadau cyllidebol o oddeutu £82 miliwn, ond er gwaethaf hyn, mae lefelau Treth y Cyngor wedi cynyddu bob blwyddyn a chyflwynwyd y cynnydd mwyaf yng Nghymru y llynedd gan Gonwy (9.9%).

“Am y tro cyntaf yn hanes yr awdurdod hwn, mae ein Treth y Cyngor wedi cynyddu’n uwch na’n cymdogion yn Sir Ddinbych, ond mae’n parhau i fod yn llawer is na’n cymdogion yng Ngwynedd. Yn amlwg, nid yw’r sefyllfa hon yn unigryw i Gonwy, ac mae cynghorau’n cael trafferth ar draws y DU.

“Ar adeg lle mae lefelau treth personol yn uwch nag erioed, mae’n amlwg yn siomedig iawn nad yw gwaith llywodraeth leol yn cael ei werthfawrogi na’i ariannu’n briodol, sy’n golygu bod yn rhaid i dalwyr Treth y Cyngor gyfrannu mwy a derbyn llai.

“O ganlyniad i’r toriadau hanesyddol hyn i wasanaethau, mae wedi bod yn hynod o anodd i’n swyddogion gyflwyno toriadau pellach a hoffwn ddiolch o galon iddynt am eu gwaith pragmatig a chydweithredol i bontio’r bwlch cyllid mwyaf erioed.”

Darllenwch yr adroddiadau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau a gwyliwch y gweddarllediad yn: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau Dydd Llun 19 Chwefror 2024, 10.00 am

Darllenwch adroddiadau’r Cabinet a gwyliwch y gweddarllediad yn: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cabinet Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024, 2.00 pm

Bydd y Cyngor yn cyfarfod ar 29 Chwefror i gadarnhau a chytuno ar y Gyllideb a Threth y Cyngor ar gyfer 2024/25.

Wedi ei bostio ar 22/02/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content