Trafodaethau cyllideb 2024/25 yng Nghonwy
Bydd Cynghorwyr yn trafod y rhagolygon ariannol ar gyfer y flwyddyn nesaf pan fyddant yn cyfarfod yr wythnos hon i gynllunio’r amserlen ar gyfer gosod cyllideb 2024/25.
Gan siarad cyn y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau, dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet Cyllid Conwy:
“Mae’r adroddiad yn amlinellu ein hamserlen a’n trefniadau llywodraethu dros y misoedd nesaf wrth i ni weithio tuag at osod y gyllideb ar gyfer 2024/25.
“Ar y cam hwn, mae rhywfaint o ansicrwydd ariannol, felly bu’n rhaid i ni wneud rhai tybiaethau am brif agweddau’r gyllideb, megis chwyddiant prisiau, y galw am wasanaethau, dyfarniadau cyflog, a chyllid grant gan Lywodraeth Cymru.
“Yn seiliedig ar y tybiaethau hyn, mae’r rhagolygon presennol ar gyfer 2024/25 yn nodi diffyg adnoddau posibl rhwng £20 a £30m yn amodol ar y newidynnau.
“Bydd yn rhaid i Gynghorwyr ystyried sut i bontio’r bwlch yn niffyg cyllid y Cyngor. Yn y bôn, ni fydd gan y Cyngor unrhyw opsiwn arall ond lleihau ei wariant mewn sawl maes sy’n debygol o gael effaith ar lefel y gwasanaethau a gwneud incwm ychwanegol.”
Bydd Cynghorwyr yn derbyn diweddariadau rheolaidd a chyfleoedd i ddadlau am y gyllideb dros y misoedd nesaf.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gadarnhau ei setliad llywodraeth leol terfynol ddechrau mis Mawrth, ond mae wedi nodi cynnydd o 3.06% ar draws Cymru. Fodd bynnag, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru’n ddiweddar bod Llywodraeth Cymru’n wynebu ei sefyllfa ariannol anoddaf ers datganoli, felly nid yw’n glir p’un a fydd dyraniadau i lywodraeth leol yn cael eu hailystyried gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru.
Bydd y Cyngor Llawn yn cyfarfod ar 29 Chwefror i gadarnhau a chytuno ar y gyllideb a Threth y Cyngor ar gyfer 2024/25.
Nodiadau i’r Golygydd
Wrth gyflwyno’r setliad llywodraeth leol terfynol ar gyfer y flwyddyn gyfredol, nododd Llywodraeth Cymru y bydd cynnydd o £196,000m (3.06%) yn setliad 2024/25 ar draws Cymru. Bydd canran y cynnydd yn amrywio i bob Cyngor lleol ac yn seiliedig ar fformiwla asesu gwariant safonol yr Awdurdod.
Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau - Gellir darllen yr adroddiad a’r atodiadau a gwylio’r cyfarfod yma: Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau ddydd Mercher, 30 Awst 2023, 10.00 am
Wedi ei bostio ar 29/08/2023