Canlyniadau Safon Uwch 2023
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy, “Hoffwn longyfarch ein holl ddysgwyr ar draws y Sir am eu cyflawniadau yn arholiadau lefel A ac AS eleni.
Hoffwn ddiolch i’r ysgolion, athrawon a staff cefnogi am eu proffesiynoldeb a’u hymroddiad i ddysgwyr yng Nghonwy, ac i’r holl ddysgwyr sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni eu canlyniadau eleni.
Dymunaf y gorau iddyn nhw i gyd wrth iddyn nhw benderfynu ar eu haddysg bellach, hyfforddiant a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Consortia Addysg Cymru (GwE): "Dymuna 6 Awdurdod Lleol y Gogledd a GwE longyfarch yr holl ddysgwyr ar eu canlyniadau Safon Uwch/UG a chymwysterau Lefel 3 eraill eleni. Hoffem ddymuno’r gorau i’r holl bobl ifanc ar gyfer y dyfodol, gan gydnabod y cymorth y maent wedi’i gael gan eu hysgolion, eu teuluoedd a’u hawdurdodau lleol. Dymunwn y gorau i chi ar gyfer eich pennod nesaf!"
Wedi ei bostio ar 17/08/2023