Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Canolfan Seibiant i Bobl Anabl Bron y Nant yn agor ei drysau

Canolfan Seibiant i Bobl Anabl Bron y Nant yn agor ei drysau


Summary (optional)
start content

Canolfan Seibiant i Bobl Anabl Bron y Nant yn agor ei drysau

Mae canolfan seibiant newydd sbon i bobl anabl yn Bron y Nant wedi agor ei drysau i ddefnyddwyr gwasanaeth y mis hwn. 

Bydd y datblygiad pwrpasol gwerth miliynau o bunnoedd yn Dinerth Road, Llandrillo yn Rhos yn helpu rhoi hwb i ofal a chymorth sydd ar gael i bobl yng Nghonwy sydd ag anableddau.

Mae Bron y Nant yn gartref i wasanaethau Seibiant i Bobl Anabl ac yn ganolfan dydd Cymorth Cynhwysol.

Bydd y gwasanaeth seibiant yn bodloni anghenion pobl gydag anableddau a’u gofalwyr ar gyfer egwyl seibiant wedi’i gynllunio. Mae pum rhandy hunangynhwysol ac ardaloedd byw cymunedol lle gall unigolion ymuno mewn digwyddiadau cymdeithasol, os ydynt yn dewis gwneud hynny.

Mae’r gwasanaeth dydd, sy’n cael ei redeg gan y tîm Cymorth Cynhwysol yn cynnig cyfleoedd dydd o ansawdd uchel i oedolion gydag anableddau dysgu.

Meddai’r Cynghorydd Penny Andow, Aelod Cabinet Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig: “Mae datblygiad Canolfan Bron y Nant wedi bod yn weledigaeth hirdymor i Wasanaethau Cymdeithasol Conwy, ac yn cyfrannu at flaenoriaeth y Cyngor i gefnogi anghenion y rheiny sy’n byw ac yn gweithio yng Nghonwy.

“Bydd y cyfleuster newydd hwn yn ein helpu ni i ddarparu ein gwasanaethau mewn amgylchedd pwrpasol ac o’r radd flaenaf.  Bydd mwy o ddarpariaeth seibiant preswyl i bobl gydag anableddau dysgu, yn enwedig pobl gydag anableddau corfforol a chyflyrau iechyd cronig, yn ein helpu ni i gefnogi ein gofalwyr anffurfiol yn well, gan sicrhau eu bod yn cael seibiant rheolaidd o’r rôl ofalu bwysig sydd ganddynt.

Drwy raglen gyfalaf Cronfa Gofal Integredig (ICF), mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu cyllid o £1.4 miliwn tuag at ddatblygu’r prosiect hwn.

Trefnir seremoni agoriad swyddogol yn y gwanwyn 2024.

 

Dolen i'n fideo o ganolfan seibiant anabledd Bron y Nant

Mae Planhigfa, siop a chaffi Bryn Euryn ar y safle ger Bron y Nant wedi’i drefnu i agor i’r cyhoedd y flwyddyn nesaf.

Wynne Construction o Fodelwyddan yw'r prif gontractwr ar gyfer y prosiect.

 

 

Wedi ei bostio ar 25/09/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content