Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cyllideb 2024/2025

Cyllideb 2024/2025


Summary (optional)
start content

Cyllideb 2024/2025

Heddiw [29/02/24] gosododd Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Dreth y Cyngor a’r Gyllideb ar gyfer 2024/25.

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Charlie McCoubrey, yr adroddiad i gyfarfod y Cyngor.

Meddai, “Unwaith eto, rydym ni fel Aelodau Etholedig yn wynebu toriadau pellach i’n gwasanaethau, neu gynnydd cosbedigol a diangen mewn lefelau Treth y Cyngor. 

“Yn amlwg, nid sefyllfa unigryw i Gonwy yw hon, gyda chynghorau ar hyd a lled y DU mewn trafferth.

“Mae llawer o hyn y tu hwnt i’n rheolaeth uniongyrchol, yn fwyaf amlwg dyfarniadau cyflog, cyfraddau llog ac elfennau sylweddol eraill megis Gofal Cymdeithasol a gwasanaethau digartrefedd, a arweinir gan bwysau.

“Ar adeg lle mae lefelau trethiant personol yn uwch nag erioed, mae’n siomedig ofnadwy nad yw’r gwaith y mae llywodraeth leol yn ei wneud yn cael ei werthfawrogi na’i ariannu, gan adael i dalwyr Treth y Cyngor gyfrannu mwy a derbyn llai.”

“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn gwasanaethau hanfodol, ond i fynd i’r afael â’r diffyg y bydd arnom ni angen lleihau achosion busnes, lleihau gwasanaethau a chodi Treth y Cyngor.”

“Hoffwn ddiolch am y ffyrdd pragmatig a chydweithredol y mae pawb a gymerodd ran wedi gweithio i gau ein bwlch ariannu mwyaf erioed. Ond hyd yn oed ar ôl yr holl waith yna mae bwlch o £8m ar ôl. I ariannu hyn bydd angen cynnydd o 8.9% ar Dreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r cyngor, ynghyd â 0.77% ychwanegol ar gyfer y cynnydd yn yr ardoll ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy’n gynnydd cyfun o 9.67%.”

Bu i’r Cyngor gymeradwyo’r Gyllideb a gosod Treth Y Cyngor ar gyfer 2024/25.

Cefnogodd y Cynghorwyr yr argymhelliad y dylai rhan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy o Dreth y Cyngor Band D ar gyfer 2024/25 fod yn £1,733.37, sy’n gynnydd o £152.84 ar gyfer y flwyddyn - sy’n cyfateb i £2.94 ychwanegol bob wythnos. 

Bydd lefel wirioneddol Treth y Cyngor y codir tâl amdano ar gyfer eiddo unigol yn dibynnu ar y band prisio ar gyfer yr eiddo, y praesept ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a'r Cyngor Tref / Cymuned ble mae'r eiddo.

 

Rhagor o wybodaeth:

 

Mae gan Gonwy oddeutu 55,800 o aneddiadau sy’n talu Treth y Cyngor ac mae oddeutu 21,400 yn cael gostyngiad person sengl. 

Mae yna oddeutu 10,500 o aelwydydd yn derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor (a bydd rhai yn derbyn gostyngiad person sengl hefyd).

Dolen i’r adroddiad llawn a’r atodiadau: Democratiaeth Leol Conwy: Rhaglen ar gyfer y Cyngor ddydd Iau, 29 Chwefror 2024, 10.00 am

Sefydliad 2023/24 £ 2024/25 £ Increase £ Increase % 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (sy’n cynnwys ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru)  1,580.53 1,733.37  152.84  9.67 
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru  333.09 349.65  16.56  4.97 
Cynghorau Tref / Cymuned (Cyfartaledd)  50.20 52.84  2.64  5.26 
Cyfanswm  1,963.82 2,135.86  172.04  8.76 
Wedi ei bostio ar 29/02/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content