Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Call for more people to become local authority foster carers

Galwad am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol


Summary (optional)
start content

Galwad am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol

Nawr, rwy'n maethu gyda'n hawdurdod lleol. Mae'r plant yn aros yn lleol,...

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Conwy yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Conwy – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Liz Roberts, Aelod Cabinet Conwy dros Blant, Teuluoedd a Diogelu :

“Mae Cymru’n arwain y ffordd; mae’r polisi hwn yn cynnig cyfle enfawr i wneud newid cadarnhaol, hirhoedlog i ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru – er budd pobl ifanc sy’n derbyn gofal heddiw, ac yn y dyfodol.

Mae’r galw am ofalwyr maeth yn parhau i gynyddu, a gofynnwn i Sir Conwy gamu ‘mlaen. Ydych chi, neu allwch chi fod yn ofalwr maeth?

Mae gofalwyr maeth yn allweddol i wneud y newid hwn i’r polisi’n llwyddiant. Ac mae llawer o fanteision o faethu gyda’ch awdurdod lleol; cefnogaeth gan dîm arbenigol lleol, cyfleoedd niferus i ddysgu a datblygu, lwfans hael i’ch cefnogi chi i ofalu am y plant sy’n cael eu lleoli gyda chi, a chymuned sydd eisoes yn ofalwyr maeth gerllaw.

Ond yn bwysicaf oll, yr opsiwn i bobl ifanc aros yn eu cymunedau lleol. Pan mae plant yn cadw cysylltiad, yn aros yn lleol a chael rhywun i fod yno iddynt yn yr hirdymor, rydym yn gweld canlyniadau gwell.”

Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.

Symudodd y gofalwr maeth Jo o asiantaeth faethu annibynnol i Faethu Cymru yn gynharach eleni. Esboniodd ei thaith – a’r gwahaniaeth y mae hi wedi’i weld wrth faethu gyda’r awdurdod lleol:

“Ar ôl troi'n ddeugain, dechreuais faethu pobl ifanc yn eu harddegau drwy asiantaeth. Roedd llawer yn dod o'r tu allan i'n hardal. Roedd hyn yn eu gadael wedi'u datgysylltu oddi wrth eu ffrindiau, eu hamgylchedd cyfarwydd, eu gwreiddiau.

“Nawr, rwy'n maethu gyda'n hawdurdod lleol. Mae'r plant yn aros yn lleol, gan gynnal cysylltiadau sy'n rhoi cysur a diogelwch. Mae hyn yn hwyluso ymweliadau, ac amser teulu gwerthfawr.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/eisoes-yn-maethu/ neu maethu@conwy.gov.uk

Wedi ei bostio ar 11/08/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content