Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Celebrating 10 years of Food Hygiene Rating display

Nodi 10 mlynedd o arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd


Summary (optional)
start content

Nodi 10 mlynedd o arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn nodi 10 mlynedd ers iddi ddod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i arddangos Sgoriau Hylendid Bwyd yng Nghymru

Mae hi’n 10 mlynedd ers i Gymru arwain y ffordd fel y wlad gyntaf yn y DU i’w gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i arddangos sgoriau hylendid bwyd. Ers mis Tachwedd 2013, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau yng Nghymru arddangos eu sticer sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg – fel y drws blaen, y fynedfa neu ffenestr.

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi sicrhau buddion parhaol i ddefnyddwyr ac i fusnesau fel ei gilydd. Yn wir, mae’r cynllun yn cael ei ddathlu fel un o gyflawniadau mwyaf arwyddocaol Cymru yn yr 21ain ganrif o ran iechyd cyhoeddus.

Ddegawd yn ddiweddarach, mae’r cynllun wedi codi safonau mewn busnesau bwyd ym Mwrdeistref Sirol Conwy gyda dros 84% o fusnesau’n arddangos sgôr o 5 a thros 98% o fusnesau â sgôr o 3 neu uwch.

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet dros y Gymdogaeth a’r Amgylchedd:

“Mae’r sticeri du a gwyrdd trawiadol sy’n cael eu harddangos mewn bwytai, caffis, archfarchnadoedd ac ar-lein yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar bobl bod busnesau yn Sir Conwy yn cymryd hylendid bwyd o ddifrif. 

“Mae’r sticeri hyn yn ffordd syml o arddangos canlyniadau’r arolygiad hylendid a gynhaliwyd gan ein swyddogion. Mae’r cynllun yn rhoi hyder i ddefnyddwyr bod bwyd yn cael ei baratoi a’i weini mewn ffordd lân a hylan, a bod y busnes yn bodloni’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer hylendid bwyd.”

Mae’r cynllun yn rhoi grym i bobl wneud dewisiadau gwybodus ynghylch ble i brynu a bwyta bwyd bob dydd. Mae arddangos y sgoriau yn cynnig manteision eraill hefyd, ac yn annog busnesau bwyd i wella eu safonau hylendid. Gall pob busnes bwyd ennill y sgôr uchaf o ‘5 – da iawn’ drwy wneud yr hyn sy’n ofynnol yn ôl cyfraith bwyd. Cofiwch, mae sgôr hylendid da yn gadarnhaol i fusnesau – gan gynnig mantais gystadleuol i’r rhai sydd â’r sgôr hylendid uchaf.

Ni ddylid diystyru effaith y cynllun. Mae’r cynllun gorfodol wedi arwain at wella safonau hylendid mewn busnesau bwyd, gyda 96% o fusnesau yng Nghymru bellach yn arddangos sgôr o ‘3’ neu uwch. Mae ymchwil yn dangos bod busnesau sydd â sgôr uwch yn llai tebygol o fod yn gyfrifol am achosion o salwch a gludir gan fwyd.

Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru:

“Rydym yn falch o gynnal y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol yn hanfodol i lwyddiant y cynllun. Wrth ymgysylltu’n rheolaidd â busnesau bwyd, maent wedi chwarae rhan allweddol wrth godi safonau hylendid i’r fath lefelau heddiw. Mae’r cynllun yn caniatáu i bobl bleidleisio â’u traed neu drwy glicio botwm a dewis y busnesau hynny sy’n cymryd hylendid bwyd o ddifrif.”

Cofiwch holi am y Sgôr Hylendid Bwyd, edrych am y sticer, neu wirio ar-lein cyn prynu bwyd: https://ratings.food.gov.uk/cy

 

Wedi ei bostio ar 27/11/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content