Arth wen siocled yn cynhyrchu trydan
Mae arth wen siocled 50kg wedi’i throi’n drydan, i godi ymwybyddiaeth o fanteision ailgylchu bwyd.
Cafodd Bianca, yr arth wen siocled, ei chreu â llaw gan y Feistres Gwneud Siocled o Gonwy, Emma Bravelli ac o’i llwyfan yn ffenestr y siop daeth â gwên i wyneb nifer o bobl dros y Nadolig.
Yn pwyso 50kg ac yn cynnwys 287,000 o galerïau, serennodd Bianca ar Channel 5 ac aeth hyd yn oed am dro i Sw Caer.
“Ar ôl ymweld â’r sw ac eistedd ar y silff ffenestr, doedd Bianca ddim yn addas i’w bwyta” meddai Mark Baravelli, Y Cyfarwyddwr. “Ond roedd arnom ni eisiau gwneud yn siŵr ei bod hi mor ddefnyddiol â phosibl, ac felly dyma ni’n cysylltu â’r Cyngor i holi ynghylch treulio anaerobig.
Mae eirth gwyn gwyllt yn colli eu cynefin wrth i effeithiau newid hinsawdd leihau rhew môr, sy’n darparu lle iddyn nhw fyw a hela. Drwy fynd â Bianca i’r cyfleuster treulio anaerobig roedd modd iddi droi’n ynni heb danwydd ffosil a chwarae ei rhan i leihau allyriadau carbon.”
Cafodd Bianca ei chasglu gan dîm ailgylchu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’i chludo i’r gwaith Biogen yn Llanelwy, sy’n prosesu’r holl wastraff bwyd a gesglir yn y sir. Llynedd, ailgylchodd preswylwyr Conwy 5,769 tunnell o wastraff bwyd, gan greu ynni adnewyddadwy a gwrtaith ar gyfer ffermydd lleol.
Ar ôl cyrraedd y safle, mae’r gwastraff bwyd yn cael ei brosesu a’i droi’n rhywbeth tebyg i uwd, sy’n cael ei bwmpio wedyn i’r tanceri treulio. Wrth i’r gwastraff bwyd gael ei dreulio, mae’r nwy a gynhyrchir yn cael ei gasglu i yrru injan ac i greu trydan, a’r gweddillion yn cael eu pasteureiddio i greu gwrtaith. Pob blwyddyn mae Biogen yn prosesu 22,500 tunnell o wastraff bwyd, gan gynhyrchu 1 miliwn wat o drydan.
“Rydym wedi arfer prosesu popeth o fagiau te a chrwyn llysiau a ffrwythau i gig a gweddillion bwyd. Ond heb os dyma’r eitem o wastraff bwyd mwyaf anghyffredin i ni erioed ei brosesu!” meddai Darren Forster, Rheolwr Awdurdod Lleol a Datblygu Masnachol Biogen UK.
“Rydym yn falch o fod wedi gallu cynnig ateb cynaliadwy yn amgylcheddol i Bianca drwy ei throi yn drydan gwyrdd ac adnewyddadwy ar gyfer cartrefi a busnesau lleol.”
Wedi ei bostio ar 03/02/2023