Bae Colwyn yn croesawu rygbi merched rhyngwladol
Heriodd tîm merched Cymru’r UDA ddydd Sadwrn (30 Medi) yn Stadiwm CSM ym Mae Colwyn.
Cymru 38
USA 18
Mae Cymru’n chweched ymhlith detholion y byd ac wedi cael lle yn yr WXV1 newydd drwy orffen yn drydydd ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2023, drwy guro Iwerddon, yr Alban a’r Eidal.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham “Rydym ni gyd yn edrych ymlaen at gael bod yn ôl gyda’n gilydd i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd yn y Bencampwriaeth Chwe Gwlad. Roedd cefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru’n rhan allweddol o’n siwrnai ac rydym wedi derbyn yr un gefnogaeth eto yng ngogledd Cymru”
Gyda buddsoddiad gwerth £700,000 yn y cae newydd yn gynharach eleni, mae Stadiwm CSM bellach yn gallu cynnig defnydd mwy cyson o gae dros y gaeaf pan fydd nifer o gaeau dan ddŵr.
Bydd natur wydn arwyneb newydd y cae’n caniatáu ar gyfer cynnal gwyliau chwaraeon a defnydd dyddiol drwy gydol y flwyddyn, a fyddai’n amhosibl gyda hen arwyneb.
Meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol URC “Y cyfraniad o £110,000 gan Grant Cyfleusterau URC yw ein dyraniad cyllid mwyaf erioed. Mae’r buddsoddiad yn dyst i’n hymrwymiad parhaus i ddatblygu talent yn y byd rygbi a chynnig darpariaeth rygbi o ansawdd uchel yng ngogledd Cymru.
Meddai’r Cyng Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Mae’n bleser gennym groesawu Timau Merched Cymru a’r UDA i Stadiwm CSM yn yr hydref eleni. Mae rygbi’n bwysig i economi’r rhanbarth ac yn ysbrydoli a datblygu talent yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnig diwrnod allan gwych i’n preswylwyr lleol”.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am rygbi gan gynnwys digwyddiadau URC, tymor RGC a gemau’r Croesgadwyr sydd ar y gweill yn Stadiwm CSM, ymwelwch â www.visitconwy.org.uk neu dilynwch @DewchiGonwy ar Facebook, Twitter a/neu Instagram.
Wedi ei bostio ar 02/10/2023