Gofyn barn trigolion Bwrdeistref Sirol Conwy am wasanaethau addysg
Mae Estyn wedi lansio arolwg i ofyn i drigolion ym Mwrdeistref Sirol Conwy am eu barn am ba mor dda mae gwasanaethau addysg a ddarperir gan y cyngor yn cynorthwyo ysgolion a gwasanaethau ieuenctid.
Mae’r arolwg yn gofyn i rieni, gofalwyr, dysgwyr ac unrhyw un sy’n gweithio ym myd addysg neu’n gysylltiedig ag ef, helpu arolygwyr i farnu effeithiolrwydd y gwasanaethau addysg.
Dywed Owen Evans, Prif Arolygydd, “Mae barn leol gan y rhai sy’n gysylltiedig ag ysgolion a gwasanaethau ieuenctid yn hanfodol i roi darlun o ba mor dda mae’r cyngor yn perfformio. Bydd arolygwyr yn ystyried pa mor dda mae’r gwasanaethau addysg yn helpu disgyblion i gyflawni, yn cynorthwyo’r rhai sy’n fregus neu sydd ag anghenion penodol, ac yn darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ar gyfer y rhai sy’n 11-25 oed.”
Bydd canlyniadau o’r arolwg yn cael eu defnyddio i lywio’r arolygiad o Wasanaethau Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sy’n dechrau ym mis Tachwedd.
https://www.smartsurvey.co.uk/s/MOOUTE/
Mae’r arolwg ar agor tan 9 Hydref 2023.
Wedi ei bostio ar 19/09/2023