Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy yn derbyn achrediad llawn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gael cyhoeddi bod y Gwasanaeth Amgueddfeydd yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy wedi derbyn achrediad llawn gan y Cynllun Achredu Amgueddfeydd.
Rheolir y Cynllun Achredu Amgueddfeydd fel Partneriaeth yn y DU rhwng Cyngor Celfyddydau Lloegr, Llywodraeth Cymru, Amgueddfeydd ac Orielau’r Alban, a Chyngor Amgueddfeydd Gogledd Iwerddon. Mae’n cael ei redeg ar gyfer amgueddfeydd ac orielau o bob maint a math ledled y DU.
Yn ogystal â bod yn gartref i gasgliadau’r Amgueddfa, mae Canolfan Ddiwylliant Conwy yn gartref i Lyfrgell yr ardal, Gwasanaeth Archifau’r sir, man arddangosfa a chaffi. Mae’n gweithredu fel canolbwynt ar gyfer y gymuned leol, ac mae’n borth i hanes sir Conwy – gyda’i harddangosfeydd treftadaeth atyniadol o wrthrychau a lluniau unigryw.
Yn 2015, dyfarnwyd £71,500 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ogystal â £900,000 yn 2017 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect Canolfan Ddiwylliant Conwy.
Mae derbyn achrediad llawn yn dangos bod y Gwasanaeth Amgueddfeydd yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy yn cael ei reoli a’i lywodraethu’n gywir i’r safon y cytunwyd arni’n genedlaethol ar gyfer y diwydiant. Dengys hefyd fod y gwasanaeth yn gofalu’n gywir am ei gasgliadau, gan eu rhannu gydag ymwelwyr a’u cadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dywedodd Rachel Evans, Swyddog Cefnogi Datblygu ac Achredu Amgueddfeydd: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig iawn i’n tîm. Mae pawb wedi gweithio’n galed i gyrraedd y cam hwn, a bydd dod yn amgueddfa Achrededig yn cynnig llawer o gyfleoedd newydd ar gyfer datblygu ein casgliadau er budd ymwelwyr a phreswylwyr.”
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Conwy: “Rwyf wrth fy modd bod Canolfan Ddiwylliant Conwy wedi derbyn achrediad llawn, ac rwy’n eithriadol o falch o’r tîm am yr holl waith caled wrth baratoi’r cais – gwych!”
I ganfod mwy ynglŷn â Chanolfan Ddiwylliant Conwy, ewch i: Canolfan Ddiwylliant Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Diwylliant Conwy | Canolfan Ddiwylliant Conwy
Gellwch hefyd ein dilyn ar Facebook: https://www.facebook.com/diwylliantconwyculture
Ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:
- Gan ddefnyddio arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn ysbrydoli, arwain ac yn rhoi adnoddau i dreftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol sy’n un parhaus i bobl a chymunedau, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
- Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae dros £30 miliwn yn mynd at achosion da ledled y DU bob wythnos.
- Dilynwch @CronfaDreftadaethyLoteri ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #CronfaDreftadaethyLoteriGenedlaethol
Wedi ei bostio ar 19/06/2023