Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy Youth Service awarded gold Quality Mark for Youth Work in Wales (QMYW)

Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn cael y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) aur


Summary (optional)
start content

Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn cael y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) aur

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy wedi cael cydnabyddiaeth am ansawdd y ddarpariaeth yr wythnos hon, wrth iddyn nhw gael y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) aur.

Cyflwynwyd y wobr i'r tîm mewn digwyddiad arbennig yng Nghoed Pella, Bae Colwyn ar 21 Medi 2023. Mae'r MAGI aur (a weinyddir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA)) yn wobr genedlaethol sy'n dangos rhagoriaeth sefydliad. I gael achrediad, mae'n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunanasesu yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.

Wrth gael y Marc Ansawdd aur, mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy wedi dangos cryfder cydweithio gyda phartneriaid, defnyddio gwybodaeth rheoli, a defnyddio adnoddau i fodloni anghenion pobl ifanc mewn modd creadigol. Mae hefyd yn cydnabod a dathlu cyraeddiadau pobl ifanc, a'r effaith mae gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid wedi ei gael ar eu siwrneiau personol.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Ieuenctid, "Rwyf wrth fy modd bod y staff ymroddgar yng Ngwasanaeth Ieuenctid Conwy wedi cael y statws aur yma. Mae cael, efydd, arian a nawr aur yn tystio i sgil, profiad a phroffesiynoldeb y tîm.

"Mae tua 300 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn sesiynau bob wythnos, a gall tîm y Gwasanaeth Ieuenctid fod yn falch o'r effaith y maent yn ei gael ar fywydau pobl ifanc."

Wrth gyflwyno'r wobr i'r tîm yng Nghonwy, dywedodd Swyddog Datblygu'r Marc Ansawdd CGA, Andrew Borsden, "Mae hi wastad yn bleser rhoi'r Marc Ansawdd aur i sefydliad.

"Yn ystod yr asesiad, dangosodd Conwy pa mor gynhwysol ac amrywiol mae eu gwasanaeth, ac mae'n rhaid i ni ganmol proffesiynoldeb y tîm wrth ymgysylltu gyda phobl ifanc yn y broses Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid."

Mae CGA yn recriwtio aseswyr MAGI ar hyn o bryd. Does dim angen unrhyw gymwysterau penodol i fod yn asesydd, ond mae'n helpu os ydych yn frwdfrydig am ddathlu gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac â diddordeb mewn sicrhau ansawdd.

Mae mwy o wybodaeth am ddod yn aseswr, ac am y MAGI yn gyffredinol, ar gael ar wefan CGA www.ewc.wales

Wedi ei bostio ar 22/09/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content