Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy'n rhagori ar darged Prydau Ysgol am Ddim Cynhwysol

Conwy'n rhagori ar darged Prydau Ysgol am Ddim Cynhwysol


Summary (optional)
start content

Conwy'n rhagori ar darged Prydau Ysgol am Ddim Cynhwysol

O fis Medi 2023, saith mis o flaen y dyddiad targed, caiff pob plentyn yn ein hysgolion cynradd gynnig pryd ysgol am ddim.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun Prydau Ysgol am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd y llynedd, gyda tharged y bydd pob plentyn yn ein hysgolion cynradd gael prydau ysgol am ddim erbyn mis Ebrill 2024.

Yng Nghonwy, mae pob plentyn oedran Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 wedi cael cynnig prydau ysgol am ddim eleni, ac o ganlyniad, mae ein hysgolion cynradd wedi gweini 1,200 o brydau ychwanegol bob dydd.

O fis Medi 2023, caiff pob plentyn yn ein hysgolion cynradd gynnig pryd ysgol am ddim, ac rydym yn amcangyfrif y bydd hynny’n golygu gweini 1,500 o brydau ychwanegol bob dydd.

Mae ceginau ein hysgolion i gyd wedi’u huwchraddio i baratoi ar gyfer cyflwyno’r cynllun hwn.  O osod poptai cyfun mwy, oergelloedd a rhewgelloedd mwy, trawsnewid o nwy i drydan, i osod ceginau newydd. Mae cyfanswm o bron i £2 filiwn o fuddsoddiad cyfalaf wedi’i wneud yng ngheginau ein hysgolion.

Yn ogystal, mae pob cegin ysgol a reolir gan Arlwyo Addysg yn ddi-bapur bellach. Mae Wi-Fi wedi’i osod ym mhob cegin ysgol, felly gallant roi gwybod sawl pryd a gaiff eu gweini, cynhyrchu taflenni amser, anfon ceisiadau am waith trwsio a chyfathrebu’n uniongyrchol â’r Gwasanaethau Addysg.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy: “Mae pawb yn teimlo pwysau ariannol yr argyfwng costau byw. Bydd prydau ysgol am ddim cynhwysol yn rhoi rhyddhad ariannol i deuluoedd, yn ogystal â darparu pryd maethlon i helpu plant ganolbwyntio ar eu haddysg.

Mae ein Gwasanaeth Addysg yn gweithio’n galed iawn i gyflwyno prydau ysgol am ddim cynhwysol i sicrhau nad oes yr un plentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol.”

Wedi ei bostio ar 18/07/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content