Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy yn cadarnhau ei gefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog

Conwy yn cadarnhau ei gefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog


Summary (optional)
start content

Conwy yn cadarnhau ei gefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cadarnhau ei ymrwymiad i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog drwy ail-arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Nod y Cyfamod Cymunedol yw annog cymunedau lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardal; hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar gymuned y lluoedd arfog ymysg y cyhoedd a chydnabod a chofio'r aberth a wnaed.

Cafodd y Cyfamod Cymunedol ei arwyddo mewn digwyddiad yn Venue Cymru, Llandudno ar 21 Mawrth .

Y Cyng Liz Roberts yw Cefnogwr y Lluoedd Arfog Conwy, gan arwain o fewn y Cyngor ar faterion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog.

Dywedodd, “Ymrwymodd Conwy i’r cyfamod i ddechrau yn 2013 ac rwy’n falch ein bod yn ailgadarnhau ein haddewid i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.”

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd i gael y cyfle i weithio gyda phobl mor ymroddedig a byddaf yn parhau i wneud fy ngorau i gynrychioli’r cyn-filwyr, milwyr a’u teuluoedd yn ein cymunedau.”

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog am y tro cyntaf yn 2013 a derbyniodd Lefel Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn yn 2019 ac mae’n gweithio tuag at adnewyddu’r Wobr ar hyn o bryd.  

 

Gwybodaeth gefndir:

Mwy o wybodaeth am Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog: Ynglŷn â - Cyfamod y Lluoedd Arfog

Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn (CCC): Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi darparu cefnogaeth eithriadol i gymuned y lluoedd arfog ac amddiffyn drwy fynd y tu hwnt i’w haddewidion Cyfamod y Lluoedd Arfog. Drwy ddull tair haen o wobr efydd, arian ac aur, mae’r cynllun yn cydnabod y lefelau gwahanol o ymrwymiad a roddwyd gan gyflogwyr.  Dyfarnwyd y wobr aur i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wreiddiol yn 2019 gyda gofyniad i hyn gael ei ail-ddilysu bob pum mlynedd.

Wedi ei bostio ar 22/03/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content