Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Bydd angen prawf adnabod â llun ar drigolion Conwy i bleidleisio mewn etholiadau ym mis Mai

Bydd angen prawf adnabod â llun ar drigolion Conwy i bleidleisio mewn etholiadau ym mis Mai


Summary (optional)
start content

Bydd angen prawf adnabod â llun ar drigolion Conwy i bleidleisio mewn etholiadau ym mis Mai

Bydd angen i drigolion ym Mwrdeistref Sirol Conwy ddangos prawf adnabod â llun i bleidleisio mewn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar 2 Mai. Mae trigolion yn cael eu hannog i wneud yn siŵr eu bod yn barod i bleidleisio trwy wirio bod ganddynt brawf adnabod a dderbynnir.

Mae’r mathau o brawf adnabod a dderbynnir yn cynnwys pasbort neu drwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad; Bathodyn Glas; a rhai cardiau teithio rhatach megis cerdyn bws person hŷn. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio prawf adnabod nad yw’n gyfredol os oes modd eu hadnabod o’u ffotograff o hyd.

Mae’r rhestr lawn o brawf adnabod a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y gofyniad newydd a manylion am sut i wneud cais am y prawf adnabod am ddim, drwy electoralcommission.org.uk/id-pleidleisiwr.

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr y Weinyddiaeth Etholiadol a Chanllawiau: “Bydd angen i unrhyw un sy’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos prawf adnabod â llun cyn y gellir rhoi papur pleidleisio iddo/iddi. Mae’n bwysig bod pawb yn deall pa fathau o brawf adnabod y gallant eu defnyddio, a sut i wneud cais am brawf adnabod am ddim os oes ei angen arnynt. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gofyniad newydd a beth i’w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio, ar wefan y Comisiwn Etholiadol.”

Dywedodd Rhun ap Gareth, Swyddog Canlyniadau Lleol Ardal Bleidleisio Conwy: “Gydag etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal ar 2 Mai 2024, mae’n bwysig bod y rhai sydd eisiau pleidleisio yn gwneud yn siŵr bod ganddynt fath o brawf adnabod a dderbynnir. Efallai ei bod yn teimlo’n gynnar i wneud hyn, ond mae gwirio nawr yn golygu y byddwch yn barod i bleidleisio ym mis Mai.

“Gall trigolion nad oes ganddynt fath o brawf adnabod a dderbynnir wneud cais am brawf adnabod am ddim naill ai ar-lein neu drwy lenwi ffurflen gais bapur a’i hanfon at dîm gwasanaethau etholiadol Conwy. Os oes angen unrhyw help arnoch i wneud cais am y prawf adnabod am ddim neu os hoffech gael ffurflen gais, cysylltwch â’r tîm gwasanaethau etholiadol ar 01492 575570.”

Mae’n rhaid i unrhyw un sydd am leisio ei farn yn yr etholiadau fis Mai eleni hefyd gofrestru i bleidleisio. Dim ond pum munud y mae'n ei gymryd i gofrestru ar-lein drwy www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dylai pleidleiswyr sy'n dymuno gwneud cais i'w cyngor am brawf adnabod am ddim sicrhau yn gyntaf eu bod wedi cofrestru i bleidleisio.

Cyflwynwyd y gofyniad i ddangos prawf adnabod â llun yn yr orsaf bleidleisio gan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y DU a daeth i rym am y tro cyntaf ym mis Mai 2023. 

Wedi ei bostio ar 26/03/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content