Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Council Tax Premium on second homes and long term empty homes

Premiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor


Summary (optional)
start content

Premiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor

Gofynnir i Gynghorwyr benderfynu ar y lefel o Bremiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Conwy ar gyfer 2024/25 mewn cyfarfodydd dros yr wythnosau nesaf.

Mae Aelodau a Swyddogion y Cyngor wedi bod yn ystyried y goblygiadau, risgiau a chanlyniadau yn ofalus o ran yr amrywiol ddewisiadau ar gyfer premiymau treth y Cyngor a ellir eu cyflwyno.  Gofynnwyd i’r cyhoedd am eu barn nhw hefyd mewn ymgynghoriad a gynhaliwyd rhwng 5 Mehefin a 14 Gorffennaf 2023 a chafwyd 373 ymateb.

Nawr gofynnir i Gynghorwyr benderfynu derbyn yr argymhellion ai peidio gan weithgor Tai Fforddiadwy (Premiymau Treth y Cyngor) a fu’n cyfarfod yn gynharach eleni:

  • Codi Premiwm Treth y Cyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor o fis Ebrill 2024.
  • Argymell lefel fynegol o bremiwm o 200% ar y ddau gategori o 1 Ebrill 2025 ymlaen, gan gyflwyno premiwm uwch o 300% ar gyfer eiddo gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag am 5 mlynedd neu fwy, yn ddibynnol ar adolygiad yn ystod 2024/2025.

Mae’r adroddiadau sy’n mynd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau, y Cabinet ac yna’r Cyngor Llawn, yn nodi trafodaethau’r gweithgor wrth ystyried effaith y Premiymau.

Mae’r Premiwm yn offer ar gyfer awdurdodau lleol wedi’i ddylunio i annog perchnogion i ddefnyddio eiddo gwag i gefnogi’r cynnydd mewn tai fforddiadwy ar gyfer eu prynu neu eu gosod ac i wella cynaliadwyedd cymunedau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Cynaliadwy sy’n cynnwys y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau, “Mae’n rhaid i ni ystyried y pwnc anodd hwn yng nghyd-destun yr effaith y bydd yr amrywiol ddewisiadau yn ei gael. Yn y pen draw mae’n ymwneud â chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, helpu i fodloni’r angen am dai yn lleol a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol. Mae’n bwysig hefyd cofio bod unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchir o’r premiymau yn parhau i gael ei ddefnyddio i gefnogi cyllideb Tai’r Cyngor sy’n wynebu pwysau sylweddol cynyddol.”

Mae ystod o fesurau ar gael i helpu i gefnogi unrhyw un sydd ag eiddo gwag i’w ddefnyddio unwaith eto. Anogir perchnogion i gysylltu â thîm tai y Cyngor: taigwag@conwy.gov.uk neu 01492 574235.

Bydd yr adroddiad ar Bremiymau yn cael ei drafod gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau y Cyngor (2 Hydref - gwyliwch y cyfarfod yma: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau Dydd Llun 2 Hydref 2023, 10.00 am ) a bydd yn mynd i’r Cabinet (10 Hydref) cyn penderfyniad terfynol gan y Cyngor (19 Hydref).

 

Wedi ei bostio ar 29/09/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content