Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Y Cyngor yn cynnig cymorth gydag ailgylchu er mwyn i aelwydydd osgoi cosb benodedig

Y Cyngor yn cynnig cymorth gydag ailgylchu er mwyn i aelwydydd osgoi cosb benodedig


Summary (optional)
start content

Y Cyngor yn cynnig cymorth gydag ailgylchu er mwyn i aelwydydd osgoi cosb benodedig

“Os nad ydych chi’n ailgylchu, bydd arnoch chi angen dechrau rŵan, neu fe allwch chi wynebu cosb benodedig.” Dyma’r neges glir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy heddiw, wrth lansio eu hymgyrch newydd ‘Gwnewch fel y Jonesiaid’, sy’n canolbwyntio ar yr ambell aelwyd sy’n ailgylchu ychydig iawn neu ddim o gwbl ar hyn o bryd.

Bydd y dull newydd yn gweld ymdrech o’r newydd i gael y lleiafrif o aelwydydd nad ydynt eto’n ailgylchu i ddechrau gwneud.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ailgylchu eu sbwriel, ond mae’n amser nawr i bawb gymryd rhan,” meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet Cymdogaethau a’r Amgylchedd.

“Pan na fydd pobl yn ailgylchu cymaint ag y gallan nhw, mae pob un ohonom yn colli allan ar yr arian y gallem ei wneud o werthu deunyddiau ailgylchadwy, fel caniau, papur, cerdyn a phlastig. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i ni dalu mwy na sydd rhaid i gael gwared â’r gwastraff a roddir mewn biniau du, oherwydd gellid ailgylchu rhywfaint ohono.”

“Yn lle hynny, mae arian y gellid bod wedi’i wario yn darparu neu’n gwella gwasanaethau i’r gymuned, fel ysgolion, llyfrgelloedd, tai, parciau a gwasanaethau cymdeithasol, yn cael ei wario yn hytrach ar glirio unrhyw lanast a fermin yn sgil biniau sy’n gorlifo, yn ogystal â thalu costau gwaredu diangen.”

Mae’r gost i’r Cyngor o beidio ailgylchu yn sylweddol, ond gellir osgoi’r gost hon yn llwyr. Pan fydd eitemau y gellid eu hailgylchu yn cael eu taflu i’r bin, mae pawb yn y gymuned ar eu colled. 

“Dyma pam rydym yn canolbwyntio ar yr ychydig aelwydydd hynny sydd – am ba reswm bynnag – wedi anwybyddu’r angen i ailgylchu hyd yn hyn,” meddai’r Cyng. Geoff Stewart. “Rydym wedi gwneud ailgylchu’n hawdd. Mae casgliadau wythnosol o’r stepen drws ar gyfer nifer o eitemau, yn cynnwys papur, cerdyn, caniau, poteli, potiau a thybiau plastig, jariau gwydr, erosolau, ffoil a bwyd. Nid yw’n cymryd llawer o amser nac ymdrech i ddidoli’ch eitemau i’r bagiau, biniau a bocsys cywir. Mae hyn eisoes yn rhan o drefn arferol y rhan fwyaf o bobl yng Nghonwy.

Gall preswylwyr hyd yn oed ofyn i aelod o dîm y Cyngor ymweld â nhw yn eu cartref, i ddangos iddyn nhw sut i ddidoli ac ailgylchu eu gwastraff. Mae’r gwasanaeth hwn yn arbennig o bwysig i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

O heddiw ymlaen, os bydd unrhyw aelwyd yn anwybyddu’r gefnogaeth a gynigir ac yn parhau i ailgylchu ychydig iawn neu ddim o gwbl, bydd y Cyngor yn rhoi hysbysiadau cosbau penodedig.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r preswylydd dalu cosb benodedig o £100 neu wynebu ymddangosiad llys.

Meddai’r Cyng. Geoff Stewart, “Does neb eisiau cymryd camau gorfodi, ond mae’n annheg ar y gymuned gyfan os bydd ychydig o aelwydydd yn parhau i beidio ag ailgylchu, a phawb arall yn gwneud. Peidiwch â phoeni, fodd bynnag, gan mai dim ond ar yr aelwydydd hynny nad ydyn nhw’n gwneud ymdrech i ailgylchu llawer neu ddim o gwbl y bydd hyn yn effeithio.

“Ein nod yw i bawb ailgylchu eu gwastraff yn gyfrifol. Dylai’r rhai nad ydyn nhw’n gwneud hynny eisoes ymuno â’u cymdogion i wneud hyn er lles eu cymuned. Cofiwch: ‘Gwnewch fel y Jonesiaid’!”

Mae’r Cyngor yn annog y rhai nad ydynt yn ailgylchu i ddechrau ar unwaith, yn hytrach nag aros am lythyr rhybudd.

Gallwch gysylltu â’ch cyngor lleol nawr i gael gwybod:

  • Beth allwch ac na allwch ei ailgylchu
  • Pa fagiau, biniau neu focsys y bydd eu hangen arnoch os nad ydyn nhw gennych chi’n barod, a’u harchebu am ddim
  • Pa ddiwrnod o’r wythnos y caiff eich ailgylchu (ac unrhyw wastraff arall na ellir ei ailgylchu) ei gasglu
  • Pa gymorth y gall y Cyngor ei roi i chi. Maen nhw yma i’ch helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Ewch i wefan y Cyngor yn www.conwy.gov.uk/ailgylchu neu ffoniwch y Tîm Cyngor ar 01492 575337.

 

 

Wedi ei bostio ar 07/08/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content