Cau Llwybr Troed Deganwy Dros Dro
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn gweithio gyda Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru i ganfod llwybr diogel dros y rheilffordd at lwybr yr arfordir ym Mhentywyn, Deganwy.
Nid yw’r gwaith yma wedi’i orffen felly ar gais Network Rail rydym ni wedi gofyn am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru i estyn cyfnod cau Llwybr Troed 73. Cawsom gymeradwyaeth ar 13 Mehefin ac felly mae’r gorchymyn cau dros dro wedi’i estyn i 15 Rhagfyr 2023.
Wedi ei bostio ar 29/06/2023