Diwrnod Gwybodaeth Dementia - 17 Mai 2023
Eleni, cynhelir Wythnos Gweithredu Dros Ddementia, a drefnir gan y Gymdeithas Alzheimer's rhwng 15 – 21 Mai.
Er mwyn cefnogi’r ymgyrch, mae digwyddiad galw heibio am ddim wedi’i drefnu ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr, gweithwyr proffesiynol ac unrhyw un arall sydd â diddordeb dysgu mwy am Ddementia a’r gwasanaethau sydd ar gael yn Sir Conwy.
Cynhelir y Diwrnod Gwybodaeth Dementia yng Nghoed Pella, Bae Colwyn, ddydd Mercher 17 Mai 2023 rhwng 10am a 2:30pm.
Bydd yna nifer o wasanaethau a sefydliadau yn cynnig cyngor a chefnogaeth, gan gynnwys: Teleofal Conwy; Tîm Lles Cymunedol Conwy; Heddlu Gogledd Cymru; Llyfrgelloedd Conwy; Hawliau Lles; Therapi Galwedigaethol; Canolfan Dementia Gogledd Cymru; Llys Elian; a’r Gymdeithas Alzheimer’s.
Mae’r Cynghorydd Mandy Hawkins yn Gefnogwr o Blaid Pobl Hŷn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dywedodd: “Rydym yn ymuno â busnesau a sefydliadau ledled y DU trwy gefnogi Wythnos Genedlaethol Gweithredu Dros Ddementia.
“Amcangyfrifir bod tua 2400 o bobl yn byw gyda Dementia yng Nghonwy, a rhagwelir y bydd y ffigwr hwnnw’n cynyddu. Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i addasu i newidiadau yn y boblogaeth, gwahaniaethau oedran ac anghenion- er mwyn gwneud Conwy’n lle gwell ar gyfer pobl gyda Dementia. Rwy’n annog pawb i ddod draw a dysgu mwy yn y Diwrnod Gwybodaeth Dementia ar 17 Mai.”
Manylion y Digwyddiad
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Mai 2023.
Amser: 10am tan 2.30pm.
Lleoliad: Y Man Arddangos, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ.
Gwybodaeth am Wythnos Gweithredu ar Ddementia: Wythnos Gweithredu Dros Ddementia | Y Gymdeithas Alzheimer's (alzheimers.org.uk)
Wedi ei bostio ar 18/04/2023