Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn 2023
Mae Cynghorwyr wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad pellach mewn perthynas â Gorchmynion Rheoli Cŵn ar draeth Bae Colwyn.
Yn y cyfarfod dydd Iau (19/10/23), cefnogodd Aelodau Cabinet y Gorchmynion Rheoli Cŵn estynedig a diwygiedig sydd ar waith mewn lleoliadau ar draws Bwrdeistref Sirol Conwy, gan eithrio’r ardal o draeth rhwng Porth Eirias a’r traeth tywodlyd bach yn Rhos Point.
Penderfynodd y Cynghorwyr y dylid cynnal ymgynghoriad pellach ynghylch y dewisiadau amgen i wahardd cŵn ar draeth Bae Colwyn, ac eithrio’r traeth bach tywodlyd yn Rhos Point, Llandrillo-yn-Rhos.
Meddai’r Cyng. Charlie McCoubrey, Arweinydd y Cyngor: “Hoffwn ymddiheuro i’r cyhoedd am unrhyw ofid a achoswyd gan y broses ymgynghori. Yn amlwg, mae yna gefnogaeth gref i ddefnyddio traeth Bae Colwyn. Yma yn sir Conwy, rydym yn ffodus iawn o gael nifer fawr o draethau hyfryd ac rwy’n siŵr y gallwn ddod o hyd i ateb i sicrhau fod pawb yn gallu mwynhau’r traeth hwn.”
Bydd yr ymgynghoriad pellach ar yr opsiynau ar gyfer traeth Bae Colwyn yn cael ei gynnal dros y gaeaf - bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi unwaith y byddant wedi’u cadarnhau.
Ar gyfer bob lleoliad arall ym Mwrdeistref Sirol Conwy, gellir gweld y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn ar: Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn 2023
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn a gwylio trafodaeth y Cabinet ar: Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen y Cabinet ddydd Iau 19 Hydref 2023 2.00 pm
Nodiadau
Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus (GGMAC) yn nodi ardal lle bo gweithgareddau a gyflawnir yn andwyo ansawdd bywyd y gymuned leol, neu’n debygol o wneud hynny. Mae’r Gorchmynion yn gosod amodau neu gyfyngiadau ar bobl sy’n defnyddio’r ardal honno.
Penderfyniad y Cabinet (19/10/23):
a) Cytuno ar y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn 2023 estynedig a diwygiedig, fel y mae yn Atodiad 2 yr adroddiad, sy’n hepgor y traeth o Borth Eirias, Bae Colwyn hyd at y traeth tywodlyd bach yn Rhos Point, Llandrillo-yn-Rhos o’r gorchymyn arfaethedig.
b) Y dylid cynnal ymgynghoriad pellach ynghylch y dewisiadau amgen i wahardd cŵn ar draeth Bae Colwyn, ac eithrio’r traeth bach tywodlyd yn Rhos Point, Llandrillo-yn-Rhos.
Bydd y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn weithredol am y tair blynedd nesaf ac yn cynnwys:
- Ardaloedd Gwahardd Cŵn (e.e. traethau, caeau chwarae)
- Baw Cŵn a dull i’w godi
- Cŵn ar Denynnau
- Cŵn ar Dennyn trwy gyfarwyddyd swyddog awdurdodedig
Wedi ei bostio ar 23/10/2023