Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Fly-tipping case in court

Achos o dipio anghyfreithlon yn y llys


Summary (optional)
start content

Achos o dipio anghyfreithlon yn y llys

Ar 19 Rhagfyr 2023 yn Llys Ynadon Llandudno plediodd Marc Philip Wilson yn euog i saith achos o dipio anghyfreithlon rhwng Medi 2020 a Chwefror 2023 yn y lôn gefn rhwng Marine Road a Rhodfa’r De, Pensarn.

Roedd yr eitemau a daflwyd yn cynnwys bagiau bin o wastraff y cartref, dodrefn, cadeiriau, pren, carpedi, potiau paent, rwbel adeiladu, bagiau tunnell a chrud bach i fabi. Cynhaliwyd yr ymchwiliad ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Heddlu Gogledd Cymru a Thaclo Tipio Cymru.

Plediodd Marc Philip Wilson yn euog hefyd i fethiant o ddyletswydd gofal i waredu ar y gwastraff yn gywir.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys yr Ynadon Llandudno ar 20 Chwefror 2024 cafodd ei ddedfrydu i 18 wythnos yn y carchar, wedi’i atal am 18 mis a gorchymyn i dalu £650 o iawndal i’r Awdurdod.

Yn dilyn yr euogfarn, ac ar gais yr Awdurdod Lleol, rhoddodd yr Ynadon Orchymyn Ymddygiad Troseddol yn ei erbyn, sy’n ei wahardd am 18 mis rhag mynd i mewn i’r lôn gefn, tu ôl i Marine Road, Pensarn, rhwng y ffyrdd a elwir yn Meirion a Berllan.

Dywedodd y Cyng. Geoff Stewart - Aelod Cabinet Rheoleiddio, Cymdogaeth a’r Amgylchedd: “Mae’r Awdurdod hwn yn cymryd Trosedd Amgylcheddol o ddifrif. Mae achosion yn cael eu hymchwilio, ac os oes digon o dystiolaeth i adnabod y rhai hynny sydd wedi tipio yn anghyfreithlon, bydd camau priodol yn cael eu cymryd, gan gynnwys erlyn trwy’r llysoedd. Mae’n bwysig i breswylwyr gofio fod ganddynt ddyletswydd i sicrhau eu bod yn defnyddio pobl sy’n gwaredu gwastraff â thrwydded.”

Dywedodd yr Arolygydd Rhanbarth Kevin Smith, Heddlu Gogledd Cymru, “Mae trosedd amgylcheddol yn effeithio ar bawb. Mae’n cael effaith andwyol ar fusnesau, y rhai sy’n ymweld â Gogledd Cymru ac ansawdd bywyd y gymuned a thrigolion. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod bod gennym i gyd ran i’w chwarae wrth ostwng yr effaith hwn.”

Dywedodd Neil Harrison, Arweinydd Tîm, Taclo Tipio Cymru, “mae oddeutu 70% o holl dipio anghyfreithlon yn parhau o aelwydydd, a dyna pam ein bod yn annog preswylwyr i gadw golwg am gludwyr gwastraff anghyfreithlon heb gofrestru, fel Marc Philip Wilson, sy’n tipio gwastraff yn anghyfreithlon i osgoi cost gyfreithiol ar gyfer ei waredu.  Mae preswylwyr yn gallu cefnogi gwaith swyddogion gwastraff Conwy drwy wirio bob amser bod gan y sawl sy’n symud gwastraff o’u cartref drwydded. 

“Gellir gwirio trwyddedau cludwyr gwastraff yn naturalresources.wales/CheckWasteLicence neu drwy ffonio 0300 065 3000.  Os bydd unrhyw un yn amau bod rhywun yn ymwneud â gweithgaredd gwastraff anghyfreithlon gallant roi gwybod drwy linell ffôn digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.”

Wedi ei bostio ar 21/02/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content