Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Hen Adeilad Clwb Ieuenctid

Hen Adeilad Clwb Ieuenctid


Summary (optional)
start content

Hen Adeilad Clwb Ieuenctid

Mae hen ganolfan ieuenctid Abergele, ar Stryd y Farchnad, yn adeilad mawr sydd angen gwaith atgyweirio.

Mae’r safle ar hyn o bryd yn rhan o bortffolio’r Gwasanaeth Ieuenctid ond nid yw’n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaeth oherwydd y lleoliad a’r adeiledd mewnol.

Mae Clwb Ieuenctid Abergele wedi symud i Ganolfan Deuluoedd Dinorben, sydd â chyfleusterau modern ac mae mewn lleoliad gwell i wneud gweithgareddau yng Nghanolfan Hamdden Abergele.

Meddai’r Cyng. Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg: “Mae symud y clwb wedi cryfhau’r ddarpariaeth i bobl ifanc yn yr ardal ac yn sicrhau bod cyllideb ein Gwasanaeth Ieuenctid yn cael ei wario ar weithgareddau i bobl ifanc yn hytrach na chynnal hen adeilad sydd angen buddsoddiad sylweddol i’w godi i safonau modern.”

“Yn anffodus dydi archebion ar gyfer yr adeilad ddim wedi dychwelyd i’r lefelau cyn COVID, sydd wedi cael effaith ariannol ar y gwasanaeth sy’n ceisio cwrdd â chostau rhedeg blynyddol yr adeilad.”

Mae nifer o grwpiau cymunedol yn dal yn defnyddio rhannau o’r adeilad, ond nid yw hynny ond am draean o’r amser sydd ar gael. Mae’r grwpiau wedi cael gwybod am hyn ac wedi cael gwybodaeth am gyfleusterau amgen yn yr ardal.

Bydd yr adeilad yn cau ddiwedd mis Medi.

Bydd yr adeilad ‘nawr yn mynd drwy ein proses gwaredu asedau, a fydd yn edrych am ddefnydd amgen ar ei gyfer a/neu waredu er mwyn sicrhau dyfodol yr adeilad rhestredig Gradd 2 hwn.

 

Nodiadau: 

 

Yn 2020 cyfrifwyd fod angen gwario £1 miliwn ar yr adeilad er mwyn iddo fodloni gofynion modern.

£11,000 yn unig yw’r incwm a gynhyrchir o’r defnydd cymunedol yma, ac mae hynny lawer is na’r gost flynyddol o redeg yr adeilad, sy’n £33,000.

Bydd yr adeilad yn dal ar gael i’r grwpiau cymunedol dros yr haf ond ni fyddwn yn derbyn rhagor o archebion ar ôl 29 Medi 2023.

Mae proses gwaredu asedau’r Cyngor yn cynnwys edrych a oes modd i wasanaeth arall y Cyngor ddefnyddio’r adeilad neu sefydliad cyhoeddus arall. Os na cheir defnydd amgen yna gofynnir am ganiatâd i roi’r adeilad ar y farchnad agored.

Wedi ei bostio ar 15/08/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content