Canlyniadau TGAU 2023
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy: “Hoffwn longyfarch ein holl ddysgwyr ar draws y Sir am eu cyflawniadau yn arholiadau TGAU eleni.
"Rwy’n siŵr y bydd y dysgwyr yn ymuno â mi i ddiolch i’r athrawon a’r staff yn eu hysgolion sydd wedi eu helpu a’u cefnogi trwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol.
"Dymunaf y gorau i’r holl ddysgwyr wrth iddyn nhw benderfynu ar eu haddysg bellach, hyfforddiant a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Consortia Addysg Cymru (GwE): "Dymuna 6 Awdurdod Lleol y Gogledd a GwE longyfarch yr holl ddysgwyr ar eu llwyddiant yn yr arholiadau TGAU a chymwysterau Lefel 2 eraill eleni. Hoffem ddymuno’r gorau i’r holl bobl ifanc ar gyfer y dyfodol, gan gydnabod y cymorth y maent wedi’i gael gan eu hysgolion, eu teuluoedd a’u hawdurdodau lleol. Byddem yn annog pob dysgwr i ofyn am gyngor ac arweiniad ar yr ystod eang o gyfleoedd dysgu ôl-16 sydd ar gael iddynt. Dymunwn y gorau i'n holl ddysgwyr yn y camau nesaf a ddewisant!"
Wedi ei bostio ar 24/08/2023