Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Great Orme Tramway Community Weekend, 30 September - 1 October

Tramffordd y Gogarth – Penwythnos Cymunedol - 30 Medi - Sul 1 Hydref


Summary (optional)
start content

Tramffordd y Gogarth – Penwythnos Cymunedol - 30 Medi - Sul 1 Hydref

Mae trigolion sir Conwy yn cael cynnig tocynnau hanner pris i fynd ar un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd Llandudno, sef Tramffordd y Gogarth, y penwythnos nesaf.

Bydd Tramffordd y Gogarth yn cynnal ei Phenwythnos Cymunedol blynyddol ddydd Sadwrn 30 Medi a dydd Sul 1 Hydref, gan gynnig gostyngiad unigryw i drigolion lleol.

Mae ymwelwyr yn dod o bob rhan o’r byd i ymweld â Thramffordd y Gogarth. Dyma’r unig dramffordd yn y DU sy’n cael ei thynnu gan geblau ar hyn ffordd gyhoeddus, ac mae’n un o dair yn unig sydd ar ôl yn y byd.

Gall pobl leol wneud yr un siwrnai ag y mae trigolion a thwristiaid wedi’i gwneud ers agor Tramffordd y Gogarth ym 1902. Dros y blynyddoedd, mae'r Dramffordd wedi tynnu eirch, darparu cludiant amser rhyfel, a chludo band y dref yn ei holl ogoniant i fyny i’r copa.

Ar y copa, mae golygfeydd godidog yr holl ffordd o Landudno i Eryri. Tra maent ar y Gogarth, gall teithwyr fwynhau llwybrau cerdded, Canolfan Pen y Gwylfryn, Mwyngloddiau Copr y Gogarth a’r Ganolfan Ymwelwyr gydag arddangosfeydd rhyngweithiol a gwybodaeth am fywyd gwyllt amrywiol a hanes y Gogarth.

Dywedodd Luke, Rheolwr y Dramffordd: “Rydym yn gyffrous i fod yn cynnal ein pedwerydd Penwythnos Cymunedol. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl leol sydd heb ymweld ers tro ac annog pobl sydd heb gael y cyfle i ymweld i ddod am y tro cyntaf.”

“Wrth fyw yng Nghonwy, gall fod yn hawdd cymryd y golygfeydd a’r atyniadau yn ganiataol. Gobeithiwn y bydd trigolion lleol yn manteisio ar y cyfle hwn i fwynhau atyniad hanesyddol unigryw yn ein hiard gefn ein hunain.”

Bydd tocynnau dwyffordd ar y Penwythnos Cymunedol yn £4.88 i oedolion a £3.45 i blant rhwng 3 ac 16 oed. Gall plant dan dair oed deithio am ddim a bydd cŵn sy'n ymddwyn yn dda yn cael eu tocyn dwyffordd eu hunain am £1.15.

Bydd angen i drigolion ddod â phrawf o'u cyfeiriad yn Sir Conwy i fod yn gymwys ar gyfer y cynnig.

Mae’r Dramffordd ar agor o 10am tan 6pm ar ddydd Sadwrn a 5pm ar ddydd Sul. Bydd y tram olaf yn gadael y copa am 5:40 ar ddydd Sadwrn a 4:40 ar ddydd Sul.

 

Wedi ei bostio ar 21/09/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content