Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Guaranteed Interview Scheme

Cynllun Gwarantu Cyfweliad


Summary (optional)
start content

Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Bydd CYFLOGWYR yn elwa o raglen recriwtio newydd sy’n gwarantu y bydd ymgeiswyr yn addas ar gyfer y swyddi maent yn eu hysbysebu.

Mae Cynllun Gwarantu Cyfweliad Canolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi ei greu i gynyddu hyder ymysg rhai sy’n edrych am waith a symleiddio’r broses ymgeisio i gwmnïau sy’n dymuno penodi staff.

Gall y rhai sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer gwasanaethau cyflogaeth a hyfforddiant y Canolbwynt fanteisio ar y cynllun, ac maent yn gobeithio y bydd mwy o sefydliadau preifat ac o’r sector cyhoeddus yn ymuno â nhw.

Ymysg y rhai sydd eisoes wedi cofrestru yw Pier Llandudno, Alpine Coaches,  Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a nifer o westai yn Llandudno gan gynnwys yr Imperial a St George.

Bu i Clare Kingscott, Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy, ddatgelu fod peilot llwyddiannus o’r cynllun wedi arwain ato’n cael ei gyflwyno ymhellach.

“Rydym wedi cael gymaint o adborth cadarnhaol, mae hwn yn gyfle gwych i rai sy’n edrych am waith a thimau AD ledled y sir,” dywedodd Clare.

“Rydym wedi cynnig gwasanaeth pwrpasol i gyflogwyr lleol am beth amser, ond mae hyn yn mynd ag o i’r lefel nesaf a bydd wir yn gwella eu prosesau recriwtio.

“Mae’r cynllun hwn yn denu mwy o ymgeiswyr ac yn ehangu’r dewis o ymgeiswyr y gallwn eu cynnig i fusnes neu sefydliad sy’n recriwtio, ond byddant wedi eu rhag-sganio gennym ni, felly dim ond ymgeiswyr sy’n addas ar gyfer y swydd fydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyfweliad.”

Ychwanegodd:  “Mae gennym gwmnïau lleol gwych sydd wedi cofrestru’n barod o amrywiaeth o ddiwydiannau, felly mae’r cynllun wedi cael dechrau da iawn.

“Mae hwn yn gynllun gwych, yn arbennig i gyflogwyr, felly rydym yn annog cymaint â phosib i gysylltu a chymryd mantais o’r cyfle hwn, beth bynnag fo maint eich busnes neu sefydliad. Mae hwn yn wasanaeth am ddim, ac rydym eisiau i gymaint â phosib o bobl i elwa ohono.”

Mae hyn yn dilyn Arddangosfa Swyddi Conwy lwyddiannus y Canolbwynt, a groesawodd mwy na 80 o gyflogwyr a dros 1,100 o geiswyr swyddi i Ganolfan Ddigwyddiadau Eirias ym Mae Colwyn yn gynharach eleni.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y Cynllun Gwarantu Cyfweliad, ffoniwch Clare ar 01492 577202 neu 07892 709837.

Neu, anfonwch e-bost cyflogwyr@conwy.gov.uk neu ewch i https://bit.ly/CyflogwyrConwy

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn cynnal Cymunedau am Waith a Mwy, Rhaglen Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru; a Phrosiect Cyflogadwyedd Pobl Ifanc a rhaglen Hyder yn dy hun a ariennir gan Gronfeydd Allweddol UKSPF Conwy, a chwrs hyfforddiant a rhaglen lwybr a ariennir gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Wedi ei bostio ar 19/04/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content