Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yng Nghymru
14 – 21 Hydref 2023
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn wythnos genedlaethol o weithredu i annog cymunedau y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, awdurdodau lleol, heddluoedd a phartneriaid allweddol eraill i gydweithio i fynd i’r afael â materion troseddau casineb lleol.
Gwerth craidd yr wythnos yw sefyll mewn undod â’r rhai y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, cofio’r rhai yr ydym wedi’u colli, a chefnogi’r rhai y mae angen cymorth parhaus arnynt.
Thema Cymru eleni yw #CymruYnghyd
Nod yr ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’ yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r effaith y mae troseddau casineb yn ei chael ar ddioddefwyr unigol. Mae’n annog dioddefwyr a phobl sy’n gweld troseddau i riportio troseddau casineb i helpu i’w hatal, a chreu Cymru fwy diogel. Mae hefyd yn anfon neges at droseddwyr bod eu casineb yn brifo pawb, gan eu cynnwys nhw eu hunain, gan y gellid eu herlyn am drosedd a fyddai’n cael effaith niweidiol ar eu bywydau.
Mae pum nodwedd sy’n cael eu gwarchod gan gyfreithiau troseddau casineb: hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol ac anabledd. Dylai’r ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’ rymuso pobl i riportio troseddau casineb, yn enwedig tystion a phobl sy’n eu gweld oherwydd gall cefnogi eraill wneud gwahaniaeth gwirioneddol i atal casineb yn ein cymdeithas.
Safwn yn erbyn trosedd gasineb
Sut mae adrodd am droseddau casineb?
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. Mewn achos nad yw’n achos brys, gallwch ffonio 101 ar gyfer yr heddlu neu 0300 30 31 982 ar gyfer Canolfan Cymorth Casineb Cymru, i gael mynediad at wasanaethau cymorth annibynnol.
Am fwy o wybodaeth:
Mae casineb yn brifo Cymru | LLYW.CYMRU
Canolfan Cymorh Casineb Cymru (victimsupport.org.uk)
Wedi ei bostio ar 16/10/2023