Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Have Your Say - Dog Control PSPO Consultation 2023

Dweud eich Dweud - Ymgynghoriad GGMAC Rheoli Cŵn 2023


Summary (optional)
start content

Dweud eich Dweud - Ymgynghoriad GGMAC Rheoli Cŵn 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn annog trigolion lleol i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar reoli cŵn mewn mannau cyhoeddus.

Mae’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Rheoli Cŵn presennol (GGMAC) ar waith tan fis Hydref 2023,  pan ddaw’r Gorchymyn drafft newydd arfaethedig i rym.

Mae’r Gorchymyn presennol yn cynnwys: 

  • Ardaloedd Gwahardd Cŵn (e.e. traethau, caeau chwarae)
  • Baw Cŵn a dull i’w godi
  • Cŵn ar Dennyn 
  • Cŵn ar Dennyn trwy gyfarwyddyd swyddog awdurdodedig

Mae gan y Cyngor nawr gyfle i adolygu’r GGMAC presennol ac mae wedi derbyn ceisiadau ar gyfer ychwanegu tair ardal newydd at GGMAC Rheoli Cŵn arfaethedig 2023, sef Cae Chwarae Penmachno; Rhos Point i Bwynt Mynediad y Promenâd yn unol â Rhodfa’r Coleg, Llandrillo-yn-Rhos; a’r traeth sych newydd rhwng Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 4 Hydref 2023 ac mae’r Cyngor yn gofyn i’r cyhoedd gyflwyno eu barn ynghylch ymestyn y GGMAC Rheoli Cŵn am y tair blynedd nesaf, gan gynnwys y tair ardal newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Emily Owen, Aelod Cabinet Tai a Rheoleiddio, “Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus a baw cŵn yn bynciau y tynnir sylw’r rhan fwyaf o gynghorwyr atynt yn rheolaidd.

“Nod y Gorchmynion Rheoli Cŵn hyn yw creu cydbwysedd fel bod perchnogion cŵn a phobl nad oes ganddynt gŵn yn gallu mwynhau mannau cyhoeddus. 

“Ein nod yw atal y nifer fechan o berchnogion cŵn anghyfrifol rhag gadael i’w cŵn faeddu, crwydro a bod allan o reolaeth mewn lle cyhoeddus – gan felly gadw pawb, gan gynnwys anifeiliaid, yn ddiogel.”

“Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan a dweud eu dweud.”

Mae’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus, y newidiadau arfaethedig, y mapiau a’r ffurflen ymateb ar gael i’w gweld ar wefan y Cyngor yn www.conwy.gov.uk/gdmc2023

Os nad oes gennych fynediad i’r wefan, mae copïau papur o’r ymgynghoriad a’r ffurflenni ymateb ar gael yn swyddfeydd Coed Pella, Bae Colwyn.  

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 04/10/23.

Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle a’r Cabinet ar gyfer y penderfyniad terfynol.

 

Wedi ei bostio ar 06/09/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content