Gwaith draenio'r briffordd - Conway Road, Bae Colwyn
Gwaith yn dechrau: Dydd Llun 3 Ebrill 8am
Gwaith yn dod i ben: Dydd Gwener 14 Ebrill 5pm
Beth sy’n digwydd?
Bydd ein contractwr yn gosod pibellau draenio priffordd newydd o dan y gylchfan ar Conway Road.
Rydym wedi trefnu’r gwaith hwn yn ystod gwyliau'r Pasg i osgoi problemau gyda thraffig ysgol.
A fydd hyn yn effeithio ar draffig?
Bydd - bydd goleuadau traffig dros dro ar Conway Road, a bydd Pwllycrochan Avenue a Marine Road ar gau i draffig ar y gylchfan, wrth i ni wneud y gwaith hwn.
Dilynwch arwyddion y gwyriad trwy Lansdowne Road, Brackley Ave, Ellesmere Road a Princes Drive.
Bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod.
Cwestiynau?
Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar erf@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra. Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith hanfodol hwn.
Wedi ei bostio ar 27/03/2023