Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Home to School Transport Consultation UpdateUntitled20

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymgynghoriad Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol


Summary (optional)
start content

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymgynghoriad Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Bydd Cynghorwyr Conwy yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar y broses ymgynghori Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol yr wythnos nesaf.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau ar 19 Rhagfyr 2023.

Bydd yr ymgynghoriad gyda dysgwyr, rhieni, llywodraethwyr a phartïon eraill â diddordeb yn dechrau ym mis Chwefror.

Bydd y Gwasanaeth Addysg yn gofyn i bobl am eu barn ar drefniadau dewisol (anstatudol), gan gynnwys: cludiant i ysgolion enwadol; cludiant ysgol i blant Teithwyr Sipsiwn Roma o fewn y pellter statudol; parhad cwrs yn dilyn newid cyfeiriad; preswyliad deuol; a chludiant ôl-16.

Nid yw cludiant statudol* o'r cartref i'r ysgol yn rhan o'r adolygiad a bydd yn parhau heb ei newid.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, yr Aelod Cabinet dros Addysg, “Yn gyffredinol ystyrir mai cludiant ysgol yw un o’r costau sy’n tyfu gyflymaf yng nghyllidebau blynyddol awdurdodau lleol. O’r herwydd, mae’n bwysig ein bod yn adolygu’r gwasanaeth a ddarparwn.”

Bydd canlyniadau'r adolygiad a'r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i gynghorwyr yn ddiweddarach i'w hystyried.

-

*Cludiant statudol o'r cartref i'r ysgol: Rhaid i Awdurdodau Lleol ddarparu cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu ysgol gynradd sy’n byw 2 filltir neu fwy o’u hysgol addas agosaf, ac i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu ysgol uwchradd sy’n byw 3 milltir neu ymhellach o’u hysgol addas agosaf.

Cymeradwyodd cynghorwyr yr adolygiad yn gynharach eleni a chytunwyd y dylid cynnal ymgynghoriad: Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen ar gyfer y Cabinet ddydd Mawrth, 22 Awst 2023, 2.00 pm

Bydd yr adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau ar 19 Rhagfyr 2023.  Dolen i’r adroddiad pwyllgor: Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau ar Ddydd Mawrth, 19 Rhagfyr 2023, 5.00 pm

Wedi ei bostio ar 12/12/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content