Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Adolygiad Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Adolygiad Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol


Summary (optional)
start content

Adolygiad Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Mae Gwasanaeth Addysg Conwy yn ceisio caniatâd i adolygu’r Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol ac i ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch cludiant anstatudol o’r cartref i’r ysgol.

Gofynnir i aelodau'r Pwyllgor Craffu Addysg a'r Cabinet gefnogi adolygiad o drefniadau cludiant o'r cartref i'r ysgol.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar drefniadau dewisol (anstatudol), gan gynnwys: Cludiant i Ysgolion Enwadol; Cludiant Ysgol i Blant Teithwyr  o fewn Pellter Statudol; Parhad y Cwrs yn dilyn newid cyfeiriad; Preswyliad Deuol; a Chludiant Ôl-16.

Nid yw cludiant statudol* o'r cartref i'r ysgol yn rhan o'r adolygiad a bydd yn parhau heb ei newid.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, yr Aelod Cabinet dros Addysg, “Yn gyffredinol ystyrir mai cludiant ysgol yw’r gost sy’n tyfu gyflymaf yng nghyllidebau blynyddol awdurdodau lleol. O’r herwydd, mae’n bwysig ein bod yn adolygu’r gwasanaeth a ddarparwn.”

Os rhoddir y golau gwyrdd, mae disgwyl i’r adolygiad gael ei gynnal yr hydref hwn, a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i gynghorwyr yn ddiweddarach i’w ystyried.

 

Gwybodaeth bellach:

Bydd yr adroddiad sy’n gofyn am ganiatâd i adolygu’r Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau ar 18 Gorffennaf 2023 ac i’r Cabinet ar 22 Awst 2023.

Dolen i’r adroddiad pwyllgor: Adolygu’r Polisi Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol

*Cludiant statudol o'r cartref i'r ysgol: Rhaid i Awdurdodau Lleol ddarparu cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu ysgol gynradd sy’n byw 2 filltir neu fwy o’u hysgol addas agosaf, ac i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu ysgol uwchradd sy’n byw 3 milltir neu ymhellach o’u hysgol addas agosaf.

 

Wedi ei bostio ar 18/07/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content