Casgliadau ymyl palmant yn parhau'n llwyddiant gyda phreswylwyr Conwy
Mae preswylwyr Sir Conwy yn parhau i wneud y mwyaf o’r gwasanaeth casglu dillad i’w hailgylchu rhad ac am ddim, gan arbed 91.952 tunnell o decstilau rhag cael eu llosgi o fewn cyfnod o 12 mis.
Mae’r casgliadau ymyl palmant pythefnosol yn cael eu gweithredu gan Gydweithfa Crest, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth eleni, bu i Crest gasglu ac arbed yr hyn sy’n gyfwerth â dros 613,000 o grysau-t – mae hynny bron i 12,000 o grysau-t yr wythnos!
Fel sefydliad ailddefnyddio, mae Crest yn ymfalchïo mewn gweithio i arbed cymaint â phosibl o ddeunyddiau rhag cael eu llosgi neu eu tirlewni. Trwy gydweithio â’r Cyngor i ddarparu’r gwasanaeth hwn, mae Crest yn helpu i roi cartref newydd i ddillad, esgidiau ac ategolion diangen. Maent yn gwneud hyn trwy eu golchi a’u hailwerthu yn eu pedair storfa gymunedol a thrwy weithio gyda sefydliadau â meddylfryd tebyg o ran ailgylchu neu ailddefnyddio tecstilau.
Eglurodd Mr Rod Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Crest, sut mae’r casgliadau ymyl palmant hyn yn cynnig mwy na dim ond budd amgylcheddol: “Mae pobl wrth wraidd popeth a wnawn yn Crest. Trwy roi eu hen ddillad a thecstilau, mae preswylwyr Sir Conwy yn helpu cefnogi’r cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth mae Crest yn eu darparu i bobl leol.
“Mae gwerthu eitemau a roddir yn ein helpu i gynnal y lleoliadau gwaith dan gymorth rydym yn eu cynnig i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r rhoddion hyn hefyd yn caniatáu i ni barhau â’n gwaith yn y gymuned- mae’r incwm o’n siopau yn ein helpu i gadw silffoedd ein banc bwyd yn llawn, gan ein galluogi i barhau i gefnogi unigolion mewn angen ar draws ein cymuned.
“Mae rhoi i Crest yn ymwneud â llawer mwy nag effaith amgylcheddol gadarnhaol ailgylchu. Mae’n ein helpu ni i barhau i gael effaith gadarnhaol ar ein cymuned. Felly, hoffwn ddiolch i bawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn eisoes am eu cefnogaeth barhaus.”
Gall pob cartref yn Sir Conwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn trwy gael bag piws o unrhyw un o siopau Crest neu lyfrgell leol, llenwi’r bag gyda dillad, esgidiau ac ategolion, a’i roi allan ar gyfer cael ei gasglu. Mae dyddiadau casgliadau pythefnosol i’w gweld ar y calendr ailgylchu a ddosberthir yn flynyddol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac maent i’w gweld hefyd ar www.conwy.gov.uk/ailgylchu. Dylai cartrefi mewn ardaloedd gwledig ffonio Crest ar 01492 596781 i drefnu casgliad.
Wedi ei bostio ar 23/08/2023