Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cyllid Prosiectau Diwylliannol Ffyniant Bro

Cyllid Prosiectau Diwylliannol Ffyniant Bro


Summary (optional)
start content

Cyllid Prosiectau Diwylliannol Ffyniant Bro

Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Venue Cymru’n cael £10 miliwn fel rhan o gyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer prosiectau diwylliannol o bwys cenedlaethol ledled Prydain.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey: “Rydym yn falch iawn fod cynlluniau Venue Cymru i ddarparu cyfleusterau gwell wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth y DU fel prosiect o bwys cenedlaethol.  Mae’r celfyddydau a diwylliant yn bwysig iawn o ran darparu effaith economaidd gadarnhaol ac wrth gefnogi lles ein cymunedau.  Mae Venue Cymru’n croesawu ymwelwyr o’r DU ac yn rhyngwladol bob blwyddyn, gan ddarparu dros £30 miliwn mewn budd economaidd i fusnesau lleol, yn ogystal â chynnig ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol cyffrous i ymwelwyr a’r gymuned leol.  Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU dros yr wythnosau nesaf i ddeall manylion y cynnig a symud y prosiect ymlaen i’r cam nesaf.”

Mwy o wybodaeth: Prosiectau Diwylliannol Ffyniant Bro: nodyn methodoleg - GOV.UK (www.gov.uk)

Wedi ei bostio ar 07/03/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content