Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ymgynghoriad ynghylch oriau agor llyfrgelloedd yn dechrau

Ymgynghoriad ynghylch oriau agor llyfrgelloedd yn dechrau


Summary (optional)
start content

Ymgynghoriad ynghylch oriau agor llyfrgelloedd yn dechrau

Mae ymgynghoriad am oriau agor llyfrgelloedd ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn dechrau heddiw (16/02/24).

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy yn gofyn i bobl am eu barn ar ddewisiadau yn seiliedig ar leihau oriau agor i atal cau unrhyw lyfrgell, ac i helpu’r gwasanaeth gynllunio at y dyfodol. 

Mae’n rhaid i bob gwasanaeth y Cyngor ganfod arbedion ariannol ar gyfer 2024/25, yn cynnwys y Gwasanaeth Llyfrgelloedd. Mae cyllideb y Gwasanaeth Llyfrgelloedd wedi’i lleihau pob blwyddyn ers 2009, ac erbyn hyn nid oes modd dod o hyd i arbedion heb newid y ffordd o ddarparu’r gwasanaeth.

Meddai’r Cyng. Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden: “Rydym ni’n wynebu dewis anodd sy’n golygu lleihau oriau agor pob llyfrgell neu i gau nifer o safleoedd.

“Os yw’r sefyllfa ariannol yn gwella yna rydym ni’n gobeithio gallu cynyddu’r oriau agor eto, ond os yw llyfrgell yn cael ei chau yna mae’n anodd iawn ei hailagor. Gyda hynny mewn golwg, rydym ni’n cyflwyno dewisiadau i gwsmeriaid ystyried, yn seiliedig ar leihau oriau agor i atal cau llyfrgelloedd, ac i helpu’r gwasanaeth gynllunio at y dyfodol.”

“Buaswn yn annog unrhyw un i gymryd rhan a rhoi gwybod i ni beth yw’ch barn am y dewisiadau”.

Mae’r wybodaeth a’r arolwg ar gael ar wefan Conwy: Ymgynghoriad Cyhoeddus Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gallwch gael copi papur o’r dderbynfa yng Nghoed Pella neu yn eich llyfrgell leol.

Fe fydd yr ymgynghoriad ar agor am 6 wythnos, cyflwynwch eich barn erbyn 02/04/24.

Bydd y canlyniadau yn cael eu cyflwyno i’r Cynghorwyr er mwyn gwneud penderfyniad ym mis Mehefin cyn gweithredu yn ystod haf 2024.

 

Cefndir

31/01/2024 Pwyllgor Craffu Economi a Lle. 
Dolen i adroddiad y pwyllgor: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle Dydd Mercher 31 Ionawr 2024, 5.30 pm

13/02/2023 Cabinet. 
Dolen i adroddiad y pwyllgor: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cabinet Dydd Mawrth 13 Chwefror 2024, 2.00 pm

 

Wedi ei bostio ar 16/02/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content