Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Llyfrgelloedd, Archifau a Diwylliant Ymgynghoriad Cyhoeddus Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy

Ymgynghoriad Cyhoeddus Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy


Summary (optional)
Dweud eich dweud am oriau agor llyfrgelloedd. Rhwng 16 Chwefror a 2 Ebrill, byddwn yn gofyn am eich barn am newidiadau i oriau agor llyfrgelloedd.
start content

Yn ystod yr ymgynghoriad ar gyllideb CBSC yn ddiweddar, fe ddywedoch wrthym fod Llyfrgelloedd yn parhau i fod yn bwysig iawn i chi. Rydym yn cynnig rhai newidiadau a fydd yn ein galluogi ni i osgoi cau llyfrgelloedd.

Rhwng 16 Chwefror a 2 Ebrill, byddwn yn gofyn am eich barn am newidiadau i oriau agor llyfrgelloedd.

Cymerwch 10 munud i lenwi’r arolwg ar-lein yma.

Neu, gallwch lawrlwytho copi yma a’i ddychwelyd i’ch llyfrgell agosaf, neu ewch i’ch llyfrgell agosaf am gymorth. Mae copïau papur ar gael yn eich llyfrgell leol a gallwch adael arolygon papur wedi’u llenwi yn unrhyw lyfrgell neu eu hanfon i:

Gwasanaeth Llyfrgell Conwy,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN


Rydym yn fwy na pharod i ddarparu'r ddogfen hon mewn fformat arall gan gynnwys braille, print bras a sain. Cysylltwch â'n Swyddog Cydraddoldeb ac Adnoddau Dynol, trwy anfon e-bost at cydraddoldebau@conwy.gov.uk, neu ffoniwch 01492 574213.

Gall defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain gysylltu â ni gan ddefnyddio dehonglydd Iaith Arwyddion, drwy Wasanaeth InterpretersLive! Darperir y gwasanaeth gan Sign Solutions.

Amseroedd Agor Llyfrgelloedd (PDF) - Fel arall mae ein horiau agor presennol i’w gweld yma.
Opsiynau Oriau Agor (PDF)
Strategaeth Llyfrgelloedd (PDF)

end content