Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Dechrau gwaith ar estyniad Mynwent Llanrhos

Dechrau gwaith ar estyniad Mynwent Llanrhos


Summary (optional)
start content

Dechrau gwaith ar estyniad Mynwent Llanrhos

Mae gwaith ar estyniad Mynwent Llanrhos oddi ar Ffordd Conwy wedi dechrau, a bydd yn para am bedwar mis.

Bydd y fynwent laswellt yn ymestyn i dir rhwng Ffordd Conwy a’r A470, i’r de o’r tiroedd presennol.  Bydd yr estyniad newydd yn caniatáu plotiau beddi dwbl a sengl, yn ogystal â phlotiau claddu llwch.

Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys lagŵn a draeniau newydd, gwaith tirlunio a nodweddion bioamrywiaeth, gan gynnwys blychau ystlumod a blychau adar. Bydd llwybrau newydd yn cysylltu’r tiroedd presennol gyda’r rhan newydd.

Bydd cerbydau adeiladu yn cael mynediad i’r safle drwy Crogfryn Road.  Bydd y llwybr cyhoeddus sy’n croesi’r safle ar gau tra bo’r gwaith yn cael ei gyflawni, ond ni fydd y gwaith yn effeithio ar fynediad i dir y fynwent.

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd: “Gwyddom fod Mynwent Llanrhos yn cael ei thrysori fel lleoliad tawel i gofio anwyliaid.  Mae’r estyniad yn sicrhau y bydd hynny’n parhau, gyda mannau claddu ar gyfer y dyfodol.” 

Wedi ei bostio ar 25/07/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content