Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn annog rhagor o Gymry i ystyried mabwysiadu
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (16-22 Hydref), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) yn parhau ei ymdrechion i annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu. Daw hyn wrth i grwpiau o siblingiaid, plant ag anghenion arbennig, a phlant hŷn yng Nghymru barhau i chwilio am eu ‘cartref am byth’.
Mae NAS yn datgelu ystod o fideos addysgol i fynd i'r afael â chamsyniadau am fabwysiadu a chynorthwyo'r rhai sy'n teimlo efallai nad ydynt yn gymwys i fabwysiadu.
Yr wythnos hon, nod NAS yw ail-lunio barn y cyhoedd trwy chwalu hen fythau a chyflwyno profiadau go iawn.
Mae nifer o fabwysiadwyr o Gymru wedi ymuno â'r fenter hon, gan ymddangos mewn fideos ac ysgrifennu blogiau i ledaenu ymwybyddiaeth.
Yn ogystal â rhannu straeon mabwysiadu, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wedi bod yn cynyddu gwybodaeth am fabwysiadu gyda chymunedau ledled y DU, trwy eu podlediad gwobrwyog, Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu.
Canmolwyd y ddwy gyfres o’r podlediad dwyieithog, a oedd yn cynnwys straeon gan saith teulu mabwysiadol ochr yn ochr â phennod arbennig, a gynhyrchwyd ac a gyflwynwyd gan bobl ifanc a fabwysiadwyd, am ei olwg onest ar fabwysiadu.
Mae pob cwr o Gymru yn cymryd rhan yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu. Ddydd Mercher 18 Hydref, bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cwblhau eu taith gerdded 402 milltir o hyd Llwybr Arfordir Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda digwyddiad arbennig yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam gyda’r maer.
Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru: "Rydyn ni’n gobeithio, yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu eleni, y bydd pobl sy’n meddwl am fabwysiadu ledled Cymru yn gweld y wybodaeth sy’n cael ei rhannu yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig. Ein nod yw ateb llawer o'r cwestiynau a allai fod ganddynt am fabwysiadu grŵp o siblingiaid, plant ag anghenion mwy cymhleth neu blentyn hŷn. Mae ein gwasanaethau bob amser yn hapus i ddarparu mwy o wybodaeth.”
Am fwy o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghymru: adoptcymru.com
Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru: Hafan - Mabwysiadu Gogledd Cymru
Wedi ei bostio ar 17/10/2023