Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion No Pass, No Travel

Dim Pas, Dim Teithio


Summary (optional)
start content

Dim Pas, Dim Teithio

Fel mae tymor newydd yr Hydref yn nesáu, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn atgoffa disgyblion a rhieni y bydd angen dangos pas ar gyfer pob taith ar fysiau ysgol.

Ym mis Medi, bydd ‘polisi dim pas, dim teithio’ yn cael ei orfodi ar bob bws ysgol Conwy o’r diwrnod cyntaf yn ôl er mwyn sicrhau bod disgyblion sydd â hawl i deithio yn cael sedd a bod gennym ddigon o le ar bob bws.

Eglurodd y Cyng. Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy:

“Mae cod lliw ar y pasys bws ac mae enw'r disgybl a rhif eu bws dynodedig yn glir arnynt. Mae hyn yn sicrhau bod pob plentyn cymwys yn cael ei ddarparu gyda gwregys diogelwch a gallant deithio'n ddiogel yn eu sedd eu hunain. Mae gorlenwi yn annerbyniol ar wasanaeth ysgolion a lle mae gennym dau fws yn gweithredu’r un llwybr, mae disgyblion weithiau yn mynd i'r arfer o ddal y bws 'hwyrach', a all arwain at un bws yn teithio’n hanner gwag a'r ail mewn perygl o fod yn orlawn".

Ychwanegodd y Cyng. Fallon, "Mae’r system hon wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn ac rydym ni wedi cysylltu ag ysgolion a rhieni, yn cynnwys defnyddwyr newydd. Ond rwy'n credu bod y neges yn werth ei hailadrodd. Os nad oes gennych bas ni fyddwch yn gallu teithio ar y bysiau ysgol."

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am drefniadau cludiant eich plentyn, cysylltwch â Thîm Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol Conwy ar cludiantysgol@conwy.gov.uk neu (01492) 577899.

Nodyn: 

Os yw eich plentyn yn gymwys i dderbyn cludiant i’r ysgol ac yn mynd i’r flwyddyn ysgol nesaf yn yr un ysgol, byddwn yn diweddaru eich manylion yn awtomatig.  Os nad yw’ch cyfeiriad wedi newid byddwn yn parhau i wneud y trefniadau teithio angenrheidiol.

Os ydi pas eich plentyn wedi mynd ar goll neu wedi’i ddifrodi, mae’n rhaid i chi gael un newydd ar unwaith. Codir £5.00 am bob pas newydd. 

Wedi ei bostio ar 14/08/2023

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content